- MEC/EMW
Gwersylloedd yr Haf - Arlein!
Fel arfer y penwythnos yma, byddech chi gyd yn cychwyn ar Wersylloedd Haf MEC yn y Bala neu Neuadd Pentrenant, ond fel rydyn ni i gyd yn gwybod erbyn hyn, bydd yr haf hwn yn un gwahanol iawn na’r arfer. Mae’r Arweinwyr, Caplaniaid, Swyddogion a Chogyddion wrth gwrs yn andros o drist nad ydyn nhw’n gallu eich gweld yr haf hwn.
Fodd bynnag, nid ydym am adael i sefyllfa Covid-19 atal yr hwyl yn gyfan gwbl! Rydyn ni wedi llunio rhai fideos ar gyfer y Gwersylloedd, a dyma’r manylion!
Bydd y fideos yn cael eu lansio’n fyw ar Facebook a YouTube, a byddant hefyd ar gael ar Wefan MEC. Dyma’r cynllun:
Dydd Mawrth 11 Awst, 10yb – Gwersyll Iau (Fel arfer rydyn ni yn Neuadd Pentrenant, oed 10-13)
Dydd Mercher 12 Awst, 10yb – Gwersyll Iau
Dydd Iau 13 Awst, 10yb – Gwersyll Hŷn (Fel arfer rydyn ni ym Mryn-y-groes, oed 14-18)
Bydd yna sialensiau, atgofion o’r haf diwethaf, sgyrsiau i’n helpu i ddysgu mwy am Iesu, a chymaint mwy!
Am yr holl wybodaeth ddiweddaraf, cadwch lygad ar y dudalen wefan hon. Gwnewch yn siŵr bod gennych ganiatâd rhiant/gwarcheidwad i gymryd rhan, a’ch bod yn dilyn rheolau’r gwahanol wefannau y byddwn yn eu defnyddio.
Rydyn ni’n mawr obeithio y byddwch yn gallu ymuno â ni!