- MEC/EMW
Gwefan newydd i rannu'r efengyl

Mae MEC wedi lansio gwefan newydd ddwyieithog i rannu'r efengyl. Mae'r wefan yn seiliedig ar y Cylchgrawn Holi, sydd wedi ei ddosbarthu gyda miloedd o bobl dros y blynyddoedd diwethaf.
Gall eglwysi a Christnogion rannu'r erthyglau yn rhydd.
Mae pedair adran i'r wefan:
Storïau - Yn yr adran yma, fe gewch nifer o erthyglau a chyfweliadau'n adrodd storïau eraill; storïau Cymry arferol sydd wedi wynebu bob math o sefyllfaoedd gwahanol - llwyddiant, gwaith, salwch meddwl, trasiedi, newid mawr a hyd yn oed ansicrwydd llethol. Er bod y storïau'n gyferbyniol, maent i gyd yn ddiddorol ac fe ddysgwn gymaint wrth eu darllen.
Cwestiynau - Nid ein bwriad yw rhoi atebion hawdd a slic yn yr adran hon, mae'r cwestiynau yn aml yn ddyrys a'r atebion yn anodd eu cael, os o gwbl. Gobeithiwn y bydd yr ymatebion sydd yma yn gymorth i bobl ac yn eu cynorthwyo i ddarganfod yr ateb mwyaf ei hun.
Mwy - Mae'r adran hon yn rhoi mwy o erthyglau am fywyd a'r ffydd Gristnogol.
Cysylltu - Adran i adael i bobl gysylltu i ofyn cwestiynau a derbyn adnoddau.
Gwelir y wefan yma www.holi-cymru.org