• MEC/EMW

Ffydd yn wyneb marwolaeth

Dyma erthygl a ymddangosodd am y tro cyntaf rai blynyddoedd yn ol. Bu farw David Ollerton ym Mis Mawrth 2017, ac rydym yn ail-gyhoeddi’r erthygl hon gyda diolch arbennig i wraig a theulu David am eu parodrwydd i wneud hyn yn ystod y cyfnod hwn. Ein gweddi yw y bydd profiad a geiriau David yn gymorth i eraill.

Mae David Ollerton yn ddyn o wrthgyferbyniadau. Dyma ddyn a anwyd yn Lloegr ond sydd bellach yn byw yng Nghymru. Dyma gefnogwr brwd o dîm rygbi Lloegr (ond nid o’r tîm pêl-droed!) ond sydd eto wedi rhoi rhan helaeth o’i fywyd i wasanaethu pobl Cymru. Ac ar hyn o bryd os nad yw adref yna rydych yn debygol o’i weld un ai’n gorwedd ar wely yng nghanolfan ganser Felindre neu yn cerdded rhai o fynyddoedd mwyaf Bannau Brycheiniog!

Aeth HOLI i’w ...holi

Diolch am siarad gyda ni, beth am i ni gychwyn yn y cychwyn, sut y cychwynnodd y cyswllt gyda Chymru?

Cefais fy ngeni a’m magu yn swydd Caerhirfryn ac fe ddechreuodd y cyswllt gyda Chymru pan o’n i’n gweithio yng nghanolfan y mynyddoedd yn Nhremadog yn y 70au. Roedd Liz, a ddaeth yn wraig i mi, yn gweithio yno hefyd ac ar ôl cyfnod y tu allan i Gymru fe ddychwelon ni i ardal Pen-y-bont ar Ogwr lle’r oeddwn yn gweithio mewn eglwys Saesneg. Gadewais ardal Pen-y-bont a symud yn ôl i Loegr, ond fe wnes i’n fuan sylweddoli fod hynny’n gam i gyfeiriad anghywir ac roeddwn eisiau dod yn ôl. Felly yn ’98 symudon ni nôl i Gaerdydd, ac yno dwi wedi bod ers hynny!

Mae’n amlwg wrth siarad gyda chi fod gennych deimlad dwfn tuag at Gymru, bron gallai rhywun ddisgrifio eich profiad yn y 90au fel hiraeth. Ydych chi’n gallu esbonio o le daeth hynny?


Pan symudais i Ben-y-bont roedd consyrn dros yr eglwys yno gen i, ond i fod yn onest roeddwn yn byw fel ‘ex-pat’. Doeddwn i ddim yn cysylltu gyda’r Cymry a doeddwn i erioed wedi ystyried Cymru fel cenedl neu’r Cymry fel pobl wahanol i neb arall. Ond wedi i mi symud i ffwrdd mi wnes i sylweddoli pa mor anghywir a sarhaus oedd hynny mewn gwirionedd. Wrth ymweld â Chymru a dod yn ôl i gynadleddau ac wrth siarad gyda phobl fel Dr Tudur Jones (darlithydd ym Mangor) mi sylweddolais pa mor arbennig oedd Cymru a bod ganddi hi a’i phobl hunaniaeth a gwerth arbennig.


Roedd fy niddordeb a’m consyrn dros Gymru’n tyfu ac mi sylweddolais mai peth hollol drahaus oedd ceisio ymwneud a helpu pobl heb fynd ati i’w deall a’u cydnabod fel pobl oedd ag iaith, cefndir a gwerth arbennig. Penderfynais ddysgu Cymraeg drwy’r cwrs WLPAN.

Agorodd hyn fyd newydd i mi! Mi ddes i ddysgu a phrofi mwy am Gymru ac roedd croeso’r bobl a’r ffaith eu bod yn fy nerbyn yn agoriad llygad. Mi ddes i weld nad dim ond mynyddoedd prydferth oedd i’w cael yng Nghymru ond fod yna gymaint o gymunedau, pobl a thraddodiadau arbennig yma. Mae’r ffaith fy mod wedi aros yma am yr ugain mlynedd ddiwethaf yn tystio i hynny.

Felly, ar wahân i ddysgu Cymraeg, beth ydych chi wedi bod yn ei wneud dros yr ugain mlynedd ddiwethaf?

Mi wnes i ddychwelyd i Gaerdydd i fod yn weinidog, ond fel rhan o fy nghontract fe wnes i fynnu fy mod yn cael diwrnod yr wythnos i helpu eglwysi drwy Gymru yn fwy cyffredinol. Mi wnes i hyn gan fod gennyf gonsyrn fod ardaloedd mawr o Gymru heb lais Cristnogol cryf i rannu’r newyddion da am Iesu. Arweiniodd hyn yn y diwedd at gychwyn mudiad o’r enw Cymrugyfan - mudiad sydd yn ceisio plannu a chryfhau eglwysi a chapeli drwy’r wlad. Mae llawer o’m hamser felly wedi bod yn cael ei dreulio yn arwain y mudiad ac yn crwydro i bob cornel o Gymru yn ceisio helpu ac annog gweinidogion a Christnogion. Dwi hefyd wedi treulio dipyn o amser yn ymladd canser!


Darllen mwy yma

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram