• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 7 Mehefin 2020

Ni wybu Crist beth oedd pechu, ond gwnaeth Duw ef yn un â phechod drosom ni, er mwyn i ni ddod yn gyfiawnder Duw ynddo ef.

2 Corinthiaid 5:21

Daw'r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Trwy Lygad y Bugail a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.


Gwisgo Oen

Miwsig oen ym maes gwanwyn,
O! y mae yn fiwsig mwyn!
A mamog weithiau'n mwmian
Yn fwy cre'i 'me' na'r ŵyn mân...

Eben Fardd sydd yma - nid ar ei orau efallai - yn canu i'r gwanwyn, amser prysur ond pleserus iawn i'r bugail. Wrth fynd o amgylch y caeau caiff y mwynhad o weld yn barhaus ryw fywyd bach newydd yn ymddangos. Y fath hyfrydwch wedyn yw gwylio'r ŵyn yn prancio a rhedeg fel pe baent mewn rhedegfeydd proffesiynol! Fel y dywed Evan Jenkins, Ffair-rhos:


Yn yr awr y bwrir o, - gwêl y gwan
Sigl ei gwt yn sugno,
Encyd, a bydd yn prancio,
Rhedeg ras ar hyd y gro.

Canlyniad ambell aeaf hir a chaled yw i'r mamogiaid fynd yn wael eu cyflwr. Ar dymhorau felly caiff y bugail ei hun yn gweithio yn erbyn natur, ac ymdrech galed yw honno bob tro. Pan rydd dafad wan enedigaeth i oen, fe gerdda i ffwrdd yn hamddenol heb frefu o gwbl fel pe bai dim wedi digwydd, er i'w hoen bach alw ar ei hôl ar dorri ei galon. Mae'r ddafad, oherwydd ei gwendid, heb ddigon o gynhaliaeth i'w chadw ei hun heb sôn am fagu oen, a dyma ffordd gyfrin natur i ofalu am fywyd y ddafad.


Yr un adeg, o bosib, bydd dafad arall gwell ei chyflwr wedi colli ei hoen. Blinga'r bugail yr oen hwnnw'n ofalus. Yna gwisga ei groen fel mantell am yr oen a wrthodwyd, gan wneud tyllau i roi ei draed a'i ben trwyddynt. Wedyn rhydd yr oen a'r croen amdano gyda'i fam wen, mewn congl gyfyng.


Mawr yw'r dirnad pa dderbyniad a gaiff, oherwydd mae pob anifail mor selog a chraff am ei eiddo. Gwyntia'r ddafad yr oen yn ofalus o'i ben i flaen ei gynffon. Hawdd gweld ei bod yn amau. Mae fel petai'n dweud, 'Sut yn y byd y mae arogl fy oen i ar hwn?' Parha i'w wyntio. Anadla'n drwm drwy'i ffroenau. O'r diwedd dyna'r croen wedi gwneud ei waith! Cymer ambell ddafad fwy o amser na'i gilydd cyn cymryd ei pherswadio mai ei heiddo hi yw'r oen.


Llawenydd i'r bugail yw eu troi allan i ryddid y caeau yn gwpwl sicr o'i gilydd, yn bâr clòs a chynnes. Gŵyr y bydd yr holl freintiau gwlanog y buasai'r fam-ddafad yn eu rhoi i'w hoen ei hun yn eiddo bellach i'r oen bach a fabwysiadwyd.


Mae rhywbeth yn debyg iawn mewn Cristnogaeth, ond bod y gwisgo hwnnw yn fater o drefn ac nid yn fater o dwyll. Ni all Duw yn ei sancteiddrwydd dderbyn rhai fel ni, sydd mor gwbl wahanol iddo. Ein hunig obaith yw trefn y cadw. A'r trefniant hwnnw ydyw i Grist drwy ei farwolaeth gymryd arno ein pechod ni, fel y gallesid yn gyfiawn ein gwisgo ni â'i gyfiawnder Ef. Yna byddwn yn ei olwg fel pe na baem erioed wedi pechu. Ryfeddol drefn!

Meddai wrtho, 'Gyfaill, sut y daethost i mewn yma heb wisg briodas?' A thrawyd y dyn yn fud. Yna dywedodd y brenin wrth ei wasanaethyddion, 'Rhwymwch ei draed a'i ddwylo a bwriwch ef i'r tywyllwch eithaf; bydd yno wylo a rhincian dannedd.' (Mathew 22:12-13)
Gwisgwch yr Arglwydd Iesu Grist amdanoch; a pheidiwch â rhoi eich bryd ar foddhau chwantau'r cnawd. (Rhufeiniaid 13:14)
O! diolch am Gyfryngwr -
Gwaredwr cryf i’r gwan;
O! am gael ei adnabod -
Fy Mhriod i a’m Rhan;
Fy ngwisgo â’i gyfiawnder
Yn hardd gerbron y Tad;
A derbyn o’i gyflawnder
Wrth deithio’r anial wlad.

Roger Edwards

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram