- MEC/EMW
Defosiwn Dyddiol MEC - 24 Ebrill 2020
Rhoddwyd iddo lyfr y proffwyd Eseia, ac agorodd y sgrôl a chael y man lle'r oedd yn ysgrifenedig: "Y mae Ysbryd yr Arglwydd arnaf, oherwydd iddo f'eneinio i bregethu'r newydd da i dlodion. Y mae wedi f'anfon i gyhoeddi rhyddhad i garcharorion, ac adferiad golwg i ddeillion, i beri i'r gorthrymedig gerdded yn rhydd, i gyhoeddi blwyddyn ffafr yr Arglwydd." Wedi cau'r sgrôl a'i rhoi'n ôl i'r swyddog, fe eisteddodd; ac yr oedd llygaid pawb yn y synagog yn syllu arno. A'i eiriau cyntaf wrthynt oedd: "Heddiw yn eich clyw chwi y mae'r Ysgrythur hon wedi ei chyflawni."
Luc 4:17-21
Beth yw agenda Iesu ar gyfer byd ar ôl Covid-19? Mae llawer o lywodraethau’n agor eu coffrau ac yn addo symiau enfawr o arian i godi gwledydd yn ôl ar eu traed, ond maen nhw’n cyfaddef na allan nhw ddim helpu pawb, a bydd rhai pobl yn siŵr o gael eu hanghofio.
Beth sy gan Iesu Grist o Nasareth i’w gynnig?
Daw’r ateb ar ffurf y bregeth eithriadol o fyr hon a roddodd yr Arglwydd ar y Saboth mewn synagog yn ei dref enedigol. Darllenodd o Eseia 61:1-2 a 58:6 yn y fath ffordd fel na allai’r bobl beidio â dal eu gwynt yn disgwyl am y geiriau nesaf. Roedd yr hyn a ddywedodd nesaf yn anhygoel, heb os nac oni bai y bregeth fyrraf a mwyaf effeithiol erioed (ad21)!
Dywedodd fod proffwydoliaeth Eseia wedi cael ei chyflawni mewn tref gyffredin, ddi-nod, yng nghlyw pobl gyffredin, ddi-nod, ar wefusau un sydd yn wir ddyn, un ohonom ni! Yn y darn yma mae Iesu yn datgan yn eofn bwrpas ei weinidogaeth, ond beth yw ei agenda ar gyfer y byd, a sut mae’n effeithio ar ein blaenoriaethau ni heddiw?
Cyhoeddi. Roedd Iesu wedi ei arfogi ag Ysbryd yr Arglwydd mewn modd arbennig i gyhoeddi’r newyddion da. Roedd Moses wedi addo proffwyd fel ef ei hun (Deut. 18:15-22). Roedd Eseia wedi pwyntio at y proffwyd hwnnw, ac yn awr roedd wedi cyrraedd! Nid dull na myth yw Cristnogaeth: Mae’n neges am ddyn go iawn sydd yn Fab Duw. Wnaeth Iesu ddim rhoi arian i bobl, pregethodd newyddion da, felly gadewch i ni weddïo y bydd cyhoeddi’r newyddion da yn nerth yr Ysbryd ar ben yr agenda yn ymateb yr eglwys i’r argyfwng hwn.
Tlodi. Targed cyhoeddiad Iesu yw’r tlodion, y rhai sydd wedi eu rhwymo a’u dallu gan Satan, ac o dan faich pechod. Mae tlodi yn un o themâu allweddol efengyl Luc, ond nid yw hynny’n golygu bod yna unrhyw beth mewn bod yn dlawd sy’n achub rhywun. Mae’n golygu er hynny y gall y rheini sy’n disgyn rhwng y craciau fod yn fwy ymwybodol nag eraill o realiti pechod a’u hangen am ras. Mae eglwysi lleol mewn lle delfrydol i ymestyn allan i’r rhai mwyaf bregus ar ymylon cymdeithas. Gadewch i ni weddïo dros y rhai tlotaf a mwyaf anghenus, wrth i’r argyfwng hwn ddatgelu caethiwed ysbrydol ein cymdeithas.
Grym. Nid geiriau nac addewidion gwag oedd cyhoeddiad Iesu. Daeth mewn grym, ac mae’n parhau felly heddiw. Mae cyhoeddiad Iesu yng ngrym yr Ysbryd yn rhyddhau dynion a gwragedd, bechgyn a merched, o bechod a chaethiwed i Satan. Mae newyddion da Iesu yn rhoi eu golwg i’r deillion, ac mae’r rhai sy’n ei dderbyn trwy ffydd yn cael ffafr a chariad Duw. Mae gwyrthiau Iesu yn portreadu hyn, ac mae Ei fywyd a’i atgyfodiad yn cyflawni hyn! Gadewch i rym achubol Crist ein llenwi â llawenydd a gadewch i ni gofio, hyd yn oed mewn pandemig: Dyma, yn awr, yr amser cymeradwy; dyma, yn awr, ddydd iachawdwriaeth (2 Corinthiaid 6:2).
Tristwch y geiriau hyn yw bod y gwrandawyr yn rhyfeddu at y pethau gwych mae Iesu yn eu dweud ond yn gwrthod credu mai Ef yw’r un sydd wedi eu cyflawni (ad, 22-29). Beth amdanoch chi?
Ydych chi wedi mynd at Iesu Grist i geisio rhyddid a ffafr? Os na, nawr yw’r amser i wneud hynny. Fel mae’r hen emyn yn dweud:
“He speaks and listening to His voice,
New life the dead receive,
The mournful, broken hearts rejoice,
The humble poor believe.”
(Charles Wesley, ‘O for a thousand tongues to sing’)
Pete Campbell, Capel Fron