• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 23 Ebrill 2020

“Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth”.

Salm 90:1 (BWM)

Ysgwn i ble fyddech chi’n ei gyfrif fel “adref”? Eich ystafell? Eich lle gwaith? Gyda’ch teulu? Gyda pherson arbennig?


Moses a ysgrifennodd Salm 90 ac yn yr adnod gyntaf mae’n dweud ble roedd “adref” iddo fo: “Ti, Arglwydd, fuost yn breswylfa i ni ym mhob cenhedlaeth”. (BWM)


Sôn am blant Israel oedd Moses. Ond beth am ei fywyd ef ei hun?

  • Ganwyd ef i mewn i deulu cariadus o Hebreaid, ond gan fod ei fywyd mewn perygl, bu’n rhaid iddo ffoi.

  • Treuliodd ddeugain mlynedd yn byw mewn palas Eifftaidd, ond wedi iddo ladd Eifftiwr am iddo’i weld yn camdrin un o’r caethweision Hebreaidd, bu’n rhaid iddo ffoi.

  • Mewn pebyll yn y diffeithwch y bu’n byw wedyn am ddeugain mlynedd arall nes i Dduw ei gyfarfod a dweud wrtho am adael.

  • Crwydrodd wedyn am ddeugain mlynedd fel arweinydd pobl Dduw, gan wersylla mewn o leiaf pedwar deg dau lle gwahanol.

A thrwy’r cwbl, yr un oedd “adref” i Moses. Gyda Duw oedd ei breswylfa.


Ond pwy yw’r Duw yma?


Edrychwch ar yr ail adnod…

‘Cyn geni’r mynyddoedd, a chyn esgor ar y ddaear a’r byd, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.’ (BCN)


Ef yw’r Duw Greawdwr Hollalluog a greodd bopeth. Ond edrychwch eto ar yr adnod – mae Ef yn dragwyddol, cyn y mynyddoedd, y ddaear, y sêr, y bydysawd, amser, y gofod - ‘o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb, ti sydd Dduw.’


Mae ei ddaioni yn dragwyddol. Mae ei gariad yn dragwyddol. Mae’n Dad, Mab ac Ysbryd Glân yn dragwyddol. Nid oes man cychwyn i’w fodolaeth ac ni ellir mesur hyd ei fodolaeth mewn oriau, dyddiau, blynyddoedd, degawdau na hyd yn oed filiynau o flynyddoedd. Mae Ef yr un, ddoe, heddiw ac yn dragywydd yn ddi-ddechrau, yn ddi-newid a di-ddiwedd.


Mewn byd sydd yn newid drwy’r amser, y gwirionedd rhyfeddol yw y gallwn ni wneud ein preswylfa gydag Ef.


Dynol ydym ni ac mae’r byd o’n cwmpas yn newid yn barhaol. Rydym yn profi cyfnodau o hapusrwydd, boddhad a llawenydd, ond daw hefyd gyfnodau poenus, yn llawn adfyd a thorcalon. Ond mae Duw yn ddigyfnewid yn oes oesoedd. Profodd Moses hyn a gwyddai mai gyda’r Arglwydd oedd ei drigfan ar hyd ei oes.


Yn Exodus 33:11 darllenwn ‘Byddai’r ARGLWYDD yn siarad â Moses wyneb yn wyneb, fel y byddai rhywun yn siarad â’i gyfaill.’ 


Er mwyn cyfarfod gyda Duw, byddai’n rhaid i Moses gymryd pabell arbennig a’i gosod y tu allan i’r gwersyll, ond rydym ni’n llawer mwy breintiedig a’n llwybr at Dduw yn llawer mwy syml. Mae gennym ni Iesu.


Rydym yn darllen yn y Beibl bod Iesu wedi dod a phreswylio yn ein plith a’i fod yn galw’r sawl sy’n credu ynddo yn gyfeillion.


Beth yw ei neges i ni, fodau dynol? ‘Dewch ataf fi, bawb sy’n flinedig ac yn llwythog, ac fe roddaf fi orffwystra i chwi.’ (Matthew 11:28).


Beth yw ei neges i ni gynulleidfaoedd? ‘Wele yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw rhywun fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato, a bydd y ddau ohonom yn cydfwyta gyda’n gilydd.’ (Datguddiad 3:20).


Beth yw ei neges i ni, gredinwyr? ‘Fel y mae’r Tad wedi fy ngharu i, yr wyf finnau wedi eich caru chwi. Arhoswch yn fy nghariad i.’ (Ioan 15:9)


Gadewch i ni wneud ein preswylfa, - ein “adref”- gyda Duw.


Samuel Oldridge, Borras Park

​​

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram