• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 19 Mehefin 2020

…ac yno daeth llaw yr ARGLWYDD arno

Eseciel 1:3

“It was the best of times, it was the worst of times.” Dyna frawddeg agoriadol nofel glasurol Charles Dickens A Tale of Two Cities. Mae hefyd yn ddisgrifiad ac asesiad da o fywyd ac amserau Eseciel. Yn ôl yn Jerwsalem allai pethau ddim bod yn waeth - gwlad y cyfamod wedi’i cholli, y deml wedi’i dinistrio, y brenin eneiniog a miloedd o’r bobl wedi’u caethgludo gan y Babiloniaid gormesol. Roedd cyfnod tywyll o 70 mlynedd o gaethiwed, alltudiaeth a thrallod o’u blaen, cyfnod fyddai’n rhoi prawf ar ddilysrwydd eu ffydd. Mae geiriau Salm 137 yn mynegi’u tristwch a’u hanobaith: “Ger afonydd Babilon yr oeddem yn eistedd ac yn wylo wrth inni gofio am Seion … Sut y medrwn ganu cân yr ARGLWYDD mewn tir estron?” (adnodau 1 a 4). Ond allai pethau ddim bod yn well yn hanes Babilon fuddugoliaethus. Roedd pawb yn edmygu ei chyfoeth, ei gallu milwrol, ei diwylliant ac arbenigedd ei haddysg. Roedd hefyd yn enwog trwy’r byd oherwydd rhyfeddod ei gerddi crog, ei duwiau paganaidd a’i themlau gwych. Ac yno y gwelwn Eseciel, mewn gwlad estron ac ymysg pobl estron. Ond yno “wrth afon Chebar” y daeth gair yr ARGLWYDD ato. Yno y datguddiodd ei fwriad ac yr arddangosodd ei gymeriad; yno y rhoddodd ei law dyner ar ei was. Roedd Duw yn agos. Yn agos i gysuro, i nerthu ac i galonogi Eseciel.


Mae’n bosib bod Eseciel wedi darllen Salm 139 laweroedd o weithiau a’i fod yn cofio rhai o’i hadnodau hyfrytaf “Yr wyt wedi cau amdanaf yn ôl ac ymlaen, ac wedi gosod dy law drosof” (adnod 5) a “…bydd dy law yn fy arwain, a’th ddeheulaw yn fy nghynnal” (adnod 10). Byddai’n ymwybodol o’r ffaith mai ymadrodd ffigurol sydd yma i ddisgrifio agosrwydd Duw, ond mae hefyd yn ymadrodd sy’n fynegiant o’i allu creadigol a chynhaliol, ei ofal, a’i gariad arweiniol ac amddiffynnol. Ond nid yn amgylchiadau cartrefol ei wlad enedigol y mae hyn a llawer mwy yn cael eu datguddio i Eseciel ond “yno” mewn gwlad ddieithr fel crediniwr ymhlith lleiafrif ymylol. Roedd ei fywyd bellach yn gwybod beth oedd cyfyngiadau a therfynau cyfnod anodd yng nghynllun Duw. Ond ’doedd gallu Duw ddim wedi’i gyfyngu fel na allai agor y nefoedd a dangos i Eseciel weledigaethau ohono’i hun. Mae’r Duw tragwyddol yn troi i fyny ble bynnag a phryd bynnag y myn. Ble bynnag yr ydym ni heddiw a beth bynnag ein hamgylchiadau, mae’r Arglwydd “yno”. Cofiwn eiriau Moses wrth Israel cyn iddo drosglwyddo’r awenau i Josua: “Bydd yn gryf a dewr, paid â’u hofni na dychryn rhagddynt [y gelynion], oherwydd bydd yr ARGLWYDD dy Dduw yn mynd gyda thi, ac ni fydd yn dy adael nac yn cefnu arnat" (Deut. 31:6).


Y brif olygfa gawn ni yn y bennod gyntaf hon o Eseciel yw un o’r Hollalluog Dduw wedi’i orseddu ar orsedd arswydus ac aruthrol gyda phedwar creadur byw ac olwynion yn cyd-symud â hi. Gall olwynion cerbydau’r gelyn fod yn fygythiol ond nid ydynt i’w cymharu â’r olwynion pedwar dimensiwn arswydus ac aruthrol ddisgrifir yma. Nid gwirionedd statig, disymud, neu haniaethol wedi’i gyfyngu i un lle neu amser yw sofraniaeth Duw. Yn hytrach, mae wastad ar waith, yn symud yn ddeinamig ac yn camu i mewn i sefyllfaoedd newydd; mae’n ymateb yn greadigol i unrhyw sialensiau newydd sy’n wynebu pobl yr Arglwydd. Yn adnod 26 cawn uchafbwynt gwefreiddiol y weledigaeth: “yn uchel i fyny ar yr orsedd ffurf oedd yn edrych yn ddynol”. Rhagolwg sydd yma o’r dydd pan fydd y Duw-Ddyn Iesu ar yr orsedd. Y dydd hwnnw pan fydd ei ddarostyngiad wedi’i wrthdroi gan ei atgyfodiad a’i esgyniad. Bydd ei gaethiwed drosodd a theyrnasiad sofran oes yr efengyl wedi dechrau. Mae’r weledigaeth hefyd yn cynnwys enfys symbolaidd fyddai’n atgoffa Eseciel a’r rhai oedd gydag ef fod addewid cyfamodol Duw yn ddi-sigl, ac yn parhau i amddiffyn ei bobl a thrwyddynt hwy ei bwrpas a’i gynlluniau cadwedigol.


Fel credinwyr, rydym ni heddiw mewn lleiafrif, wedi’n hymylu ac fel pe baem wedi’n caethiwo gan ddiwylliant seciwlar anffyddiol sy’n gwadu bodolaeth Duw a Christ. Ond gadewch i ni edrych a chanfod gweledigaeth o orsedd ysblennydd a mawreddog gyda’r Duw Hollalluog yn eistedd arni ynghyd â’n cynrychiolydd dynol perffaith ni - neb llai na Iesu. Boed i ni heddiw fod yn ymwybodol o’i law rasol a thrugarog yn estyn allan i orffwys arnom a’n sicrhau o’i gynhaliaeth, ei nerth a’i ddiogelwch.


Meirion Thomas, Malpas Road

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram