• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 19 Gorffennaf 2020

Blant, yr ydych chwi o Dduw, ac yr ydych wedi eu gorchfygu hwy; oherwydd y mae'r hwn sydd ynoch chwi yn gryfach na'r hwn sydd yn y byd.

1 Ioan 4:4

Bachu

Fe’i gwelaf yn fy meddwl y funud yma - ei gorff byr yn ei ddwbl yn codi'r naill dywarchen ar ôl y llall yn yr ardd. Byseddai’r pryfaid genwair a’u rhoi’n ofalus, y naill ar ôl y llall, yn y tun mwstard - ychwanegiadau at y clymiad sgleimllyd oedd yno’n barod yn gweu drwy’i gilydd. Mae’n ymunioni ac yn ei chyfeirio hi yn fân ac yn fuan i’r sgubor i mofyn ei enwair bysgota, ac i ffwrdd ag ef at yr afon.


Howel Wood ydoedd, un o’r rhai olaf o’r Sipsiwn Romani a allai siarad yr iaith Romani. Arhosodd yn agos i ddeugain mlynedd yn fy nghartref ym Mhantyneuadd, ger y Bala. Trol a mul a phabell yn unig oedd gan Mathew Wood ei dad. Na, dim mor foethus â charafán. Gellid mynd â phabell gymaint yn nes at fin yr afon! Ymddangosodd Howel droeon ar raglenni teledu, a chymerodd ran fel dawnsiwr step y glocsen yn un o ffilmiau Emlyn Williams - The Last Days of Dolwyn. Tra oedd yn y stiwdio yn Llundain un tro gwelodd hi’n glawio, a chymaint a allent ei wneud oedd ei gadw rhag dychwelyd adref at ei enwair, y pysgod a’r afon.


Pysgota oedd diddordeb pennaf Howel. Gadewch inni ei ddilyn at yr afon. Pan fydd o fewn golwg iddi, fe aiff ar redeg. Mor bwysig yw bod yno i ddal blaen y llif, i gynnig bwyd i’r pysgod cyn iddynt gael eu digoni. Mor ofalus mae’n gwisgo y pryf genwair am y bach. Nid oes dim o’r bach yn y golwg. Teifl ef i’r dŵr. Na, nid i ganol y cenlli, ond i lynnoedd bach llonydd. Dyna lle ceir y pysgod ar li. Hawdd canfod pan fydd pysgodyn wedi’i fachu. Bydd tynfa sydyn ar y llinyn, a maint y dynfa a ddwed faint y ’sgodyn. Gŵyr yn iawn nad oes wiw iddo geisio tynnu’r pysgodyn allan yn sydyn; os yw o ryw faint fe dorrai’r llinyn a chollai’r bach a’r pysgodyn. Tyn ef yn araf i fyny yn erbyn y lli. Pan lonydda’r llinyn, gŵyr y gall lanio’r pysgodyn yn ddiogel.


Ar ddiwrnod braf a’r dŵr yn glir, âi Howel at lan yr afon a chymryd sylw manwl o’r math o wybed a ehedai dros wyneb y dŵr. Os nad oedd ganddo bluen debyg eisoes yn ei gap neu yn ei bwrs bachau, âi ati i wneud un efo peth o gynffon gwiwer a phlu ieir. Sicrhâi’r cyfan yn ddiogel am y bach ag edafedd sidan lliwgar pe byddai raid.


Taflai’r bluen yn feistrolgar nes glaniai’n dawel ar wyneb y dŵr i nofio’n braf gyda help pwt о gorcyn. Swatiai yntau’n ddistaw y tu ôl foncyff coeden neu yng nghysgod torlan. Diddorol oedd cael ei wylio, ond ar ddiwrnod braf fel hyn rhoddai Howel ar ddeall i chi toc y gallai wneud heb eich cwmni! Ofnai і’n lleisiau a’n symudiadau darfu’r pysgod a thynnu eu sylw - a’r dŵr mor glir - oddi ar yr un peth pwysig, yr abwyd.


Treuliodd teulu Howel eu bywyd yn astudio arferion pysgod. Gwyddent yn dda fel yr adweithient dan bob math о amgylchiadau. Rhoddent y cwbl a oedd ynddynt ar waith i geisio temtio a hudo’r pysgod i gymryd eu dal. Druan o’r pysgod. Tipyn o gamp oedd iddynt osgoi eu triciau i gyd.


Wrth feddwl am Howel ni allwn ond meddwl am ein temtiwr ninnau. Gŵyr yntau lawer iawn amdanom ninnau. (Ond diolch i Dduw, ni ŵyr y cwbl.) Dacw fo yng Ngardd Duw. Mor gyfrwys y defnyddiodd ei abwyd gyda’r dyn cyntaf. Gŵyr ein harferion, ein cryfder a’n gwendidau, mor ddigalon y teimlwn yn aml yn nofio’n gyson yn erbyn llif yr oes. Gŵyr sut i guddio’r bach, a pha abwyd sydd at ein dant, pa wybedyn y gallwn ei lyncu yn ddiarwybod bron, a pha le a pha bryd i fwrw ei linyn bachog. Druan ohonom.


Ond mae Un na allodd ef erioed ei dwyllo na’i ddenu - Un a orchfygodd y diafol a’i holl gynllwynion.

Ein nerth a’n cadarn dŵr yw Duw,
Ein tarian a’n harfogaeth;
O ing a thrallod o bob rhyw
Rhydd gyflawn waredigaeth.
Gelyn dyn a Duw,
Llawn cynddaredd yw;
Gallu a dichell gref
Yw ei arfogaeth ef;
Digymar yw’r anturiaeth.
Gwan lewyrch ddaw o allu dyn:
Mewn siomiant blin mae’n diffodd;
Ond trosom ni mae’r addas Un,
A Duw ei Hun a'i trefnodd.
‘Pwy?’ medd calon drist:
Neb ond Iesu Grist,
Arglwydd lluoedd nef;
Ac nid oes Duw ond Ef;
Y maes erioed ni chollodd.
Pe’r byd yn ddieifl fel uffern ddofn,
Yn gwylied ¡'n traflyncu,
Ni roddwn le i fraw nас ofn;
Mae’n rhaid i ni orchfygu.
Brenin gau y byd,
Er mor ddewr ei fryd,
Ni wna ddim i ni;
Fe’i barnwyd er ei fri:
Un gair a’i gyr i grynu.
Martin Luther cyf. Lewis Edwards

Mari Jones, Trwy Lygad y Bugail

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram