• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 17 Mai 2020

Updated: May 20

Oherwydd nid ysbryd caethiwed sydd unwaith eto'n peri ofn yr ydych wedi ei dderbyn, ond Ysbryd mabwysiad, yr ydym trwyddo yn llefain, "Abba! Dad!"

Rhufeiniaid 8:15

Daw'r defosiwn isod allan o lyfr Mari Jones Yng Nghysgod y Gorlan a gyhoeddwyd gan y Mudiad nifer o flynyddoedd yn ôl.


Y Fref

Hesbin ifanc dwyflwydd oed oedd hi, ac angen cymorth arni i esgor ar ei hoen cyntaf. Bu raid defnyddio'r cŵn i'w hamgylchu droeon cyn ei chornelu. 'Chydig a gysidrai yn ei styfnigrwydd mai cymwynas â hi oedd ei dal. Cafodd ollyngdod buan o'i phwn a'i phoen. Mewn byr amser roedd ei hoen yn un swp melyn gwlyb wrth ei hochr. Ond, y gnawes, 'wnâi hi ddim â fo! 'Chymerai hi ddim sylw ohono. Gynted ag y gallodd, i ffwrdd â hi, fel pe'n gwadu bod ganddi hi unrhyw gysylltiad ag o. Er ei dychwel ato droeon, yr un oedd ei hadwaith – y swpyn bach diamddiffyn yn methu denu serch ei fam. Fe'i cynhyrfwyd o bosib gan y profiad newydd o esgor am y tro cyntaf. Ac yn sicr, fe'i gwylltiwyd gan y cŵn nes iddi anwybyddu'n llwyr ei greddf gynhenid.


'Doedd dim amdani ond ei gyrru gyda chynhorthwy'r cŵn i'r ysgubor, i'w chornelu mewn lle cyfyng iddi gael cyfle i ymgydnabod â'i hoen. Digwyddai fod cryn bellter rhyngddynt a'r tŷ, a thipyn o orchwyl oedd cario ar fraich oen bach yn syth o'r bru heb ei lyfu, yn llysnafedd melyn i gyd. Yn arferol, y peth cyntaf a wna dafad wedi bwrw ei hoen yw ei lyfu, ac yna llyncu y wisg sydd amdano, y brych a'r cyfan. Yn nhrefn natur, fel hyn y dychwel iddi yr haearn ac am bell fitamin a roes ei chorff i'w hoen wrth ei gario.


A hwythau o fewn golwg i'r ysgubor wedi cerdded rhyw hanner milltir, dyma'r oen bach yng nghôl John yn rhoi bref – ei frefiad cyntaf erioed. Yr eiliad yna safodd ei fam yn stond, a throdd yn ei hôl yn sydyn gan edrych yn eiddgar i gyfeiriad yr oen. Deffrôdd y fref honno rywbeth cynhenid yn y ddafad ac adweithiodd fel pe bai cloc wedi taro o'i mewn. Ymatebodd y funud honno. Dyna ryfedd – bref na chlywodd erioed mohoni o'r blaen yn dweud wrthi yn ddiamheuol mai ei heiddo hi oedd yr oen.


Ni ellid rhoi yr oen i lawr yn ddigon buan; fe'i hawliodd y funud honno. Mor gyflym a distaw ag oedd bosib fe'u gadawyd hwy yno gyda'i gilydd. Symudodd y ddafad hithau 'run cam oddi wrtho nes ei lyfu'n Iân, a'r olwg ddiwethaf a gaed arnynt oedd y bychan yn sugno ac yn etifeddu y cariad a'r gofal y gall mam wlanog ei roi. Dychwelodd John i'r tŷ yn fudr wlyb i'w groen, nid yn unig i 'molchi a newid ei ddillad, ond hefyd i lawen ryfeddu wrth adrodd yr hanes.


Fel gwaith pob cennad o'r gwirionedd, y cyfan a allai'r bugail ei wneud oedd dod â'r fam a'r oen at ei gilydd. Dod â newyddion da'r Efengyl i glyw'r bobl, dod â'r iachawdwriaeth sydd yn yr Arglwydd Iesu Grist a fewn cyrraedd iddynt, dyna yw gwaith gweision Duw. Greddf a barodd i'r oen frefu ac i'r fam ymateb. A greddf a blannodd Duw yn ei blant o'i ras trwy'r Ysbryd Glân a ddeffry'r gri 'Abba, Dad' ynom ninnau. A phan ddigwydd, ymetyb Duw hefyd yn ddi-ffael. Yna fe geir cyfathrach a chymdeithas, ac fe etifeddwn ninnau y cariad a'r gofal sydd yn Nuw ar ein cyfer.

P'le'r enynnodd fy nymuniad?
P'le cadd fy serchiadau dân?
P'le daeth hiraeth im am bethau
Fûm yn eu casáu o'r blaen?
lesu, Iesu,
Cwbwl ydyw gwaith dy law.
Williams Pantycelyn​

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram