• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 17 Awst 2020

Felly, gweddïwch chwi fel hyn

Mathew 6:9

Y Weddi Orau

Yn y geiriau hyn, rhoddodd ein Harglwydd Iesu gyfeirlyfr ar gyfer gweddi i'w ddisgyblion ac i ni. Y deg gorchymyn yw rheol ein bywyd, y gredo yw swm ein ffydd, a gweddi’r Arglwydd yw patrwm ein gweddi. Fel y gwnaeth Dduw ragnodi patrwm y tabernacl i Moses (Exod. 25:9), felly mae Crist wedi rhagnodi patrwm gweddi inni - ‘Felly, gweddïwch chwi fel hyn’, ac ati. Gadewch i hyn felly fod y rheol a model i fframio ein gweddïau ... Nid ein bod wedi ein clymu â geiriau gweddi’r Arglwydd. Nid yw Crist yn dweud, ‘Felly, gweddïwch chwi hyn’; ond ‘fel hyn’: hynny yw, gadewch i'ch holl ddeisyfiadau gytuno â'r pethau a gynhwysir yng ngweddi'r Arglwydd; bydd yn dda inni wneud ein holl weddïau yn gytseiniol ac yn gytûn â'r weddi hon ...


Mae gan ddarn o waith gymeradwyaeth gan ei grëwr, ac mae gan y weddi hon gymeradwyaeth gan ei hawdur; gweddi’r Arglwydd ydyw. Gan fod y gyfraith foesol wedi'i hysgrifennu â bys Duw, felly ynganwyd y weddi hon o wefusau Mab Duw. Fel y caiff Caniad Solomon ragoriaeth a'i galw yn 'Gân y Caneuon', felly mae'n ddigon posib y dylid galw hon yn 'Weddi'r Gweddïau'.


Cawn fudd dwbl o ddilyn patrwm y weddi hon.

  1. Mae gwallau mewn gweddi yn cael eu hatal. Nid yw'n hawdd ysgrifennu'n anghywir ar ôl y copi hwn; ni allwn gyfeiliorni yn hawdd pan fydd ein patrwm mor glir.

  2. Ceir y trugareddau y gofynnwyd amdanynt; oherwydd mae’r apostol yn ein sicrhau y bydd Duw yn ein clywed wrth weddïo ‘yn ôl ei ewyllys’ (1 Ioan 5:14). Ac rydym yn sicr yn gweddïo yn ôl ei ewyllys wrth weddïo yn ôl y patrwm y mae wedi'i anfon atom.

— Thomas Watson, The Lord’s Prayer (B.T.)


Allan o Daily Devotions from the Puritans – gan Wasg Bryntirion (awdur I.D.E. Thomas)​

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram