• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 15 Mai 2020

Updated: May 20

Ond y mae ef yn deall fy ffordd; wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur. Dilyn fy nhroed ei lwybr; cadwaf ei ffordd heb wyro. Ni chiliaf oddi wrth orchmynion ei enau; cadwaf ei eiriau yn fy mynwes. Erys ef yr un, a phwy a'i try? Fe wna beth bynnag a ddymuna.

Job 23:10-13

Yn ystod fy nefosiwn dyddiol rwyf wedi bod yn mynd trwy lyfr Job. Hoffwn rannu gyda chi rai o’r pethau sydd wedi fy nharo wrth ddarllen, pethau sydd wedi bod yn anogaeth ac yn sialens i fi.


Mae’r ffaith mai prawf penodol iawn wedi’i gyfeirio ato ef fel unigolyn oedd yr un a ddaeth i ran Job yn golygu bod ei sefyllfa yn gwbl bersonol. Allwn ni ddim defnyddio’i sefyllfa unigryw ef i wneud datganiadau cyffredinol. Ond fe allwn ni ddysgu gwersi a chael ein calonogi gan yr hyn a ddysgwn.


Yn yr argyfwng presennol mae’n hawdd gweld y treialon amlwg sydd wedi dod ar draws pobl - rhai’n eu hwynebu ar eu pen eu hunain, eraill gyda’u teuluoedd. Ond ni fydd pawb yn ei gwneud yn amlwg eu bod yn bryderus; ac mae’n ddigon posib nad y pryderon amlwg fydd yn eu blino. Ar ben popeth arall, mae gan bobl eu pryderon personol, a’r rheiny’n rhai parhaus.


Dyma rai syniadau ar sut y gallwn helpu ein hunain a chefnogi eraill, pa dreialon a phrofion bynnag ddaw i’n cwrdd.


1. Mae treialon i’w disgwyl.

Does dim rhaid i neb ein perswadio i gredu hynny, ond mae Job 5:7 yn ein hatgoffa y “genir dynion i orthrymder, cyn sicred ag y tasga’r gwreichion.”


2. Mae treialon yn ennyn ymateb.

Gwelwn, yn gyntaf, ymateb Job i’w dreialon wrth iddo droi at Dduw gyda’i bledio, ei gwynion a’i rwystredigaethau. Er ei fod weithiau’n ymateb i’w ffrindiau, at Dduw yn bennaf y mae’n cyfeirio’i ymateb. Pam? Oherwydd, hyd yn oed yn ei ddryswch, mae’n cydnabod pwy yw Duw.

“Gan Dduw y mae doethineb a chryfder, a chyngor a deall sydd eiddo ef” (Job 12:13).

Er na all gael gafael arno, mae’n dyheu am gyflwyno’i achos i Dduw.

“Os af i’r dwyrain, nid yw ef yno; ac os i’r gorllewin, ni chanfyddaf ef. Pan weithreda yn y gogledd, ni sylwaf; os try i’r de nis gwelaf. Ond y mae ef yn deall fy ffordd; wedi iddo fy mhrofi, dof allan fel aur. Dilyn fy nhroed ei lwybr; cadwaf ei ffordd heb wyro. Ni chiliaf oddi wrth orchmynion ei enau; cadwaf ei eiriau yn fy mynwes. Erys ef yr un, a phwy a’i try? Fe wna beth bynnag a ddymuna. Yn wir fe ddwg fy nedfryd i ben, fel llawer o rai eraill sydd ganddo” (Job 23:8–14).
Mae sialens i ni yma. Beth yw’n hymateb cyntaf ni pan fydd pethau’n mynd o chwith? Ai troi at Dduw neu droi at eraill?

Yn ail, gwelwn sut mae ffrindiau Job yn ymateb. Yn gyffredinol, caiff ffrindiau Job eu gweld mewn goleuni gwael, yn gymaint felly fel bod pobl y tu allan i gylchoedd Cristnogol yn cyfeirio’n ddilornus at ‘gysurwyr Job’. Fodd bynnag, mae yna rai pethau amdanynt sy’n haeddu’n canmoliaeth:


i. Fe ddaethant!

“Yna clywodd tri chyfaill Job am y cystudd trwm a ddaeth arno. Daeth Eliffas y Temaniad, Bildad y Suhiad, a Soffar y Naamathiad, pob un o’i le ei hun, a chytuno â’i gilydd i ddod i gydymdeimlo ag ef a’i gysuro” (Job 2:11). Fe ddaethon nhw o bellter i’w weld; nid anfon nodyn byr yn dweud ‘meddwl amdanoch’ (nid bod dim o’i le ar hynny) a meddwl eu bod wedi gwneud eu dyletswydd. Fe weithredodd y tri mewn ffordd hunanaberthol. Pan fydd ffrind mewn angen, ydyn ni’n fodlon gweithredu’n hunanaberthol, beth bynnag fydd hynny’n ei olygu?


ii. Roedden nhw yno!

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng dod i rywle a bod yno? Mae’n anodd ei ddiffinio ond mae’n wahaniaeth real. Weithiau gallwn fod mor brysur yn gwneud rhywbeth - fel paratoi paned o de, siarad â’n ffrind ac eraill - fel nad ydym yno gyda nhw mewn gwirionedd. Nid felly ffrindiau Job:

“Eisteddasant ar y llawr gydag ef am saith diwrnod. Ni ddywedodd yr un ohonynt air wrtho, am eu bod yn gweld fod ei boen yn fawr” (Job 2:13).

“Llawenhewch gyda’r rhai sy’n llawenhau, ac wylwch gyda’r rhai sy’n wylo” (Rhufeiniaid 12:15). Y sialens yma yw – Ydyn ni’n cymryd amser jyst i fod yno gyda phobl?


iii. Fe siaradon nhw!

Dyma lle’r aeth pethau braidd yn chwithig! Ar yr wyneb mae ffynonellau eu cyngor i Job yn ymddangos yn dda. Maen nhw’n tynnu ar ddiwinyddiaeth a hanes. Dwy ffynhonnell ddigon cymeradwy, ond mae ychydig broblemau ynglŷn â’u dehongliad ohonyn nhw. Y broblem gyntaf oedd bod eu diwinyddiaeth yn ddiffygiol - roedden nhw’n gor-bwysleisio’r Gyfraith ar draul Gras. Yr ail broblem oedd eu diffyg dealltwriaeth. Am na allen nhw ddeall beth oedd yn digwydd, roedd yn rhaid iddyn nhw ymbalfalu am ryw ffordd i’w esbonio. Rhaid bod Job wedi pechu. Weithiau, fel yn achos Job, wyddom ni ddim beth yw’r rhesymau, dim ond Duw sy’n gwybod. Ddylen ni byth ddyfeisio ateb pan nad oes un amlwg ar gael. Y drydedd broblem oedd eu bod, er yn gwrando’n ofalus ar eiriau Job, ddim yn trïo deall sut roedd e’n teimlo. Yn aml, dyw’r ddau ddim yr un peth.


Pa wersi allwn ni ddysgu?

  • Weithiau, meddai’r Pregethwr (3:7b), mae ’na “amser i dewi, ac amser i siarad”. Mae hefyd yn sôn am “amser i gofleidio, ac amser i ymatal”, heb unrhyw feddwl am ein sefyllfa bresennol ni!

  • Mae angen mwy na diwinyddiaeth ar ffrind da, mae arno angen y doethineb i wybod sut i’w defnyddio. Cafodd ffrindiau Job eu ceryddu gan Dduw am eu defnydd ohoni. Meddai wrth Eliffas y Temaniad: “Yr wyf yn ddig iawn wrthyt ti a’th ddau gyfaill am nad ydych wedi dweud yr hyn sy’n iawn amdanaf, fel y gwnaeth fy ngwas Job” (Job 42:7).

  • Mae ffrind doeth yn gwrando â’i galon ac yn ymateb i deimladau yn ogystal ag i eiriau.


3. Mae i dreialon eu heffaith.

Gall treialon effeithio arnom mewn amrediad eang o ffyrdd. Rydyn ni i gyd wedi gweld pobl sydd wedi chwerwi gymaint nes troi i ffwrdd oddi wrth Dduw, ffrindiau neu deulu. Ond troi at Dduw mewn ffordd newydd a ffres wnaeth Job a chafodd ei berthynas â’r Arglwydd ei chyfoethogi. Dyma’i dystiolaeth:

“Trwy glywed yn unig y gwyddwn amdanat, ond yn awr rwyf wedi dy weld â’m llygaid fy hun” (Job 42:5).

Ac fe ddarllenwn i Dduw, wedi i Job weddïo dros ei ffrindiau, “adfer iddo ei lwyddiant…a rhoi’n ôl iddo ddwywaith yr hyn oedd ganddo o’r blaen” (Job 42:10).


A fydd ein treialon ni yn ein tynnu’n agosach at Dduw neu’n peri i ni droi oddi wrtho?


Dyma fel mae Tim Keller yn crynhoi hanes y gŵr o wlad Us, “The more true Job’s knowledge of God, the more fruitful his prayers become and the more sweeping the change in his life”.


Cafodd yr uchod ei rannu gan Tirzah Jones yn ddiweddar ag aelodau Cwrdd Gwragedd eglwys Malpas Road (ar Zoom)

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram