• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 15 Gorffennaf 2020

“Paham, fy enaid y’th ddarostyngir, ac yr ymderfysgi ynof?” - BWM

“F’enaid, pam wyt ti’n teimlo mor isel? Pam wyt ti mor anniddig?” – Beibl.net

Salm 42:5, 11; 43:5

Ydi’r lockdown ’ma’n eich cael chi lawr?


Dair gwaith mewn dwy Salm, (42:5 ac 11; 43:5) mae’r salmydd yn rhoi mynegiant i’r gofid sy’n llethu’i enaid. Mae’n amlwg mewn cyflwr isel iawn a hynny oherwydd ei amgylchiadau. Yng ngolau pethau fel maen nhw yn ein hanes ni ar hyn o bryd, gallwn ddeall sut y gall anawsterau annisgwyl ac anochel effeithio ar stad meddwl rhywun. Ond gan amlaf, gwaetha’r modd, dydyn ni ddim mor agored â’r salmydd; teimlwn fod addef ein digalondid yn sarhad arnom ni ac ar y rhai o’n cwmpas.


Dyn duwiol - Nid person wedi ymbellhau oddi wrth ei Arglwydd sydd yma. Na, mae’n parhau i gerdded gyda’i Dduw, yn gwybod yr ysgrythurau ac yn ymhyfrydu yn ei ffyrdd perffaith Ef. Gwrandewch arno’n lleisio’i deimladau: “Fel y brefa yr hydd am yr afonydd dyfroedd, felly yr hiraetha fy enaid amdanat ti O Dduw.” Mae’n dyheu am gymdeithas â’i Arglwydd, am gael ei adnabod yn well a bod yn ei bresenoldeb i’w addoli a’i foliannu. Wrth i ni ddarllen y Beibl gwelwn dro ar ôl tro sut mae amgylchiadau croes yn gallu effeithio ar y gwir grediniwr, ac mae hanes yr eglwys yn dangos bod rhai o’r Cristnogion ffyddlonaf wedi’u llorio gan ddigalondid.


Beth oedd yn ei ofidio?

(a) Roedd cwestiwn dirmygus ei elynion - “Ble mae dy Dduw?” - nid yn unig yn sarhad personol oedd yn awgrymu ei fod yn ffŵl neu o’i bwyll yn credu ym modolaeth a ffyddlondeb ei Arglwydd, ond roedd hefyd yn anfri ar Dduw ei hun, rhywbeth a frifai’r salmydd i’r byw.

(b) Am ryw reswm nid oedd yn gallu cwrdd â’i gyd-gredinwyr; roedd yn methu mynd “i dŷ Dduw” gyda’r dorf i “gadw gŵyl” (42:4). Ydi hynna’n canu cloch? Mae’n fendith ein bod ni’n gallu manteisio ar dechnoleg a ‘chyfarfod’ ar Zoom neu wylio ar Facebook, ond ’dyw hynny ddim ’run peth â brodyr a chwiorydd yng Nghrist yn ymgynnull ynghyd.

(c) Roedd, dros dro, wedi colli ymwybyddiaeth o bresenoldeb Duw a hyd yn oed wedi dechrau meddwl ei fod wedi’i “fwrw ymaith” (42:9; 43:2). Roedd angen iddo’i atgoffa’i hun o ffyddlondeb Duw yn y gorffennol. Ni all Duw hollalluog anghofio’i bobl. Yn wir, ni all anghofio unrhyw beth. Ond fe all, o fwriad, anghofio ein pechodau. “Byddaf drugarog wrth eu camweddau, ac ni chofiaf eu pechodau byth mwy” (Hebreaid 8:12). Clod i’w Enw!


Ffydd nid teimladau – Ar adeg pan fo amgylchiadau’n eich cael i lawr daliwch eich gafael yn dynn yn y ffeithiau hynny sy’n wir. Mae teimladau’n anwadal ac yn gallu cael eu chwythu o gwmpas fel ceiliog y gwynt gan amgylchiadau. Yn Salm 43, adnod 2, mae’r salmydd yn holi “Pam?”, ond nid am ei fod yn gwrthod cydnabod y gwahanol bethau oedd yn effeithio arno. Mae’n bosib mai rhyfeddu at yn ffaith ei fod yn teimlo fel hyn y mae. Ac mai’r hyn mae’n ddweud wrtho’i hun yw, “Pam yn y byd rwy’n teimlo fel hyn a minnau â Thad mor gariadus sydd wedi arddangos ei ymrwymiad i’w bobl ar draws y canrifoedd?”


Beth mae’n wneud?

(a) Mae’n siarad â’i hunan. Gall siarad â chi’ch hun, arwydd cyntaf colli’ch pwyll yn ôl llawer, olygu’r cam cyntaf i adnewyddu cymdeithas â Duw. Weithiau mae’n ofynnol i ni siarad o ddifri â ni’n hunain.

(b) Mae’n atgoffa’i hunan o berson a chymeriad Duw. Ef, Arglwydd ei fywyd, yw’r unig wir a bywiol Dduw. Mae’n Waredwr pechaduriaid mewn ffordd gwbl bersonol ac unigryw. Mae’n hollalluog ac yn noddfa i’w bobl.

(c) Mae’n cael ei alluogi i weld pethau yn y persbectif cywir - mai dros dro’n unig y mae’r dioddefiadau presennol.

(ch) Mae’n cael ei symbylu i barhau i weddïo, a’r hyder i ymddiried yng ngoleuni a gwirionedd Duw i’w ddwyn i ddiogelwch. Rhaid i ni weddïo hyd yn oed pan fydd hi’n anodd neu bron yn amhosib gwneud. Roedd William Cowper yn gwybod beth oedd cyfnodau o ddigalondid llethol, ond gallodd ganu yn ei iselder:


Y saint un niwed byth ni chânt;
Cymylau dua’r nen
Sy’n llawn trugaredd, glawio wnânt
Fendithion ar eu pen.
Na farna Dduw â’th reswm noeth,
Cred ei addewid rad;
Tu cefn i len rhagluniaeth ddoeth
Mae’n cuddio wyneb Tad.

John Martin, Eglwys Efengylaidd Llanbed​

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram