• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 14 Mai 2020

Updated: May 20

'Gyfaill, tyrd yn uwch.'

Luc 14:10

Mae bod yn falch yn cael ei ystyried yn rhinwedd bellach yn ein cymdeithas. Arwydd o lwyddiant yw ein bod yn ymfalchïo yn ein cyraeddiadau. ‘Wedi’r cyfan,’ dywedir, ‘os dio gen ti dangosa fo’. Ond serch hynny, onid oes rhywbeth hyll iawn ynglŷn â’r person sy’n llawn o’i bwysigrwydd ei hun? Mae’n amlwg bod yr hyn sy’n wir heddiw wedi bod yn wir hefyd yn nyddiau Iesu – does fawr dim wedi newid dros y 2,000 blynedd diwethaf o safbwynt y natur ddynol.


Un dydd Saboth aeth Iesu i gyd-fwyta gyda gwesteion eraill yn nhŷ rhyw Pharisead. Nid Pharisead cyffredin mo hwn ond arweinydd yn eu plith – y pwysica o’r pwysigion. Ac wrth i bobl gymryd eu lle wrth y bwrdd yng nghartref y dyn sylwodd Iesu fod rhyw ymrafael hyll am y mannau o anrhydedd i’w weld.


Gallwn yn hawdd ddychmygu’r olygfa wrth i bobl ymwthio heibio’i gilydd yn slei bach i fachu lle yn y safle roedden nhw’n tybio oedden nhw’n ei haeddu. Wedi llwyddo i sicrhau y llefydd gorau posibl lled orweddodd pawb yn barod i fwyta. Ond yn lle bwyd yr hyn gawson nhw oedd dameg oedd yn ddrych o’u hymddygiad. Mae’r hanes i’w gael yn Luc 14:7–10:

Yna adroddodd ddameg wrth y gwesteion, wrth iddo sylwi sut yr oeddent yn dewis y seddau anrhydedd: "Pan wahoddir di gan rywun i wledd briodas, paid â chymryd y lle anrhydedd, rhag ofn ei fod wedi gwahodd rhywun amlycach na thi; oherwydd os felly, daw'r sawl a'ch gwahoddodd chwi'ch dau a dweud wrthyt, 'Rho dy le i hwn', ac yna byddi dithau mewn cywilydd yn cymryd y lle isaf. Yn hytrach, pan wahoddir di, dos a chymer y lle isaf, fel pan ddaw'r gwahoddwr y dywed wrthyt, 'Gyfaill, tyrd yn uwch'; yna dangosir parch iti yng ngŵydd dy holl gyd-westeion.

Adroddodd Iesu’r ddameg hon, nid yn unig er mwyn ceisio gwella sut roedd pobl yn ymddwyn wrth fwyta, ond i dynnu sylw at y pechod o falchder ac i danlinellu sut mae Duw’n ymwneud â ni bobl bechadurus. Daw hyn yn amlwg yn y geiriau sy’n dilyn y stori fechan hon, ‘Oherwydd darostyngir pob un sy’n ei ddyrchafu ei hun, a dyrchefir pob un sy’n ei ddarostwng ei hun.(ad.11)


Drwy ostwng ein hunan y mae Duw yn ein dyrchafu. Nid crefyddwyr rhagrithiol sy’n gweddïo er mwyn cael eu gweld yw’r rhai y mae Duw yn eu derbyn, yn hytrach pechaduriaid sydd wedi’u darostwng ac sy’n galw allan am drugaredd sy’n derbyn ei faddeuant. Nid y balch sy’n dod at droed y groes ond y pechadur diymadferth sy’n ymwybodol iawn o’i angen. Ein problem fawr mor aml yw’r tueddiad sydd ynom i wthio’n hunain yn uwch, hyd yn oed tra ar yr un pryd yn ceisio rhoi’r argraff ein bod yn isel.


Ond mae hon yn ffordd ffôl iawn o fyw. Onid llawer gwell yw bod yn ddarostyngedig a chydnabod ein pechod o flaen y Duw sanctaidd, na cheisio ymddangos felly’n unig. Oherwydd pan fyddwn yn plygu’n isel rydym yn y lle priodol i glywed y geiriau grasol, ‘Gyfaill, tyrd yn uwch.’


Sam Oldridge, Borras Park

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram