• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 13 Ebrill 2020

Ond gan mor gyfoethog yw Duw yn ei drugaredd, a chan fod ei gariad tuag atom mor fawr, fe'n gwnaeth ni, ni oedd yn feirw yn ein camweddau, yn fyw gyda Christ; trwy ras yr ydych wedi eich achub. Yng Nghrist Iesu, fe'n cyfododd gydag ef a'n gosod i eistedd gydag ef yn y nefolion leoedd, er mwyn dangos, yn yr oesoedd sy'n dod, gyfoeth difesur ei ras trwy ei diriondeb i ni yng Nghrist Iesu.

Effesiaid 2:4-7

Gwahanu poenus ac aduniad hapus

Wythnos yn ol cawsom anerchiad gan y Frenhines Elisabeth, dim ond y pumed tro iddi wneud hyn heb iddi fod yn Nadolig. Gwnaeth hynny adeg Rhyfel Cyntaf y Gwlff, marwolaeth Diana, marwolaeth ei mam ac amser dathlu ei Jiwbilî deiamwnt fel brenhines. Er bod gennym farn wahanol ar y frenhiniaeth mae’n siwr, roedd rhai o’i geiriau wedi fy nharo.


Soniodd, ymhlith pethau eraill, am y boen o fod ar wahân i’n hanwyliaid ar hyn o bryd, a chyfeiriodd yn ôl at yr Ail Ryfel Byd pan rwygwyd teuluoedd er mwyn cludo plant dinasoedd i ddiogelwch cefn gwlad. Roedd hyn yn boen ac yn ofid i blant a rhieni fel ei gilydd, wrth gael eu gwahanu am gyfnod sylweddol heb y dechnoleg sydd gennym heddiw i gadw mewn cysylltiad. Fe’n hanogodd hefyd i edrych ymlaen at aduniad hapus nes ymlaen.


Faint ohonom sy’n hiraethu am gofleidio plant ac wyrion; heb sôn am y sefyllfa erchyll pan fo rhywun agos yn yr ysbyty neu wedi marw, a chriw bach iawn yn cael dod i ffarwelio a chysuro’i gilydd.


Gwnaeth hyn i mi feddwl am y Pasg ac am yr Arglwydd Iesu ar y groes.


Roedd yn golygu bod Duw y Tad wedi bodloni ‘gadael fynd’ ar ei Fab tragwyddol, ei annwyl Fab, nid yn unig i ddod i’r byd, ond hefyd i gael ei groeshoelio ac i brofi’r tywyllwch eithaf yn ein lle ni. Arwydd o hyn oedd y tywyllwch yn y wlad ar y pryd a’r gri ddaeth o enau Iesu: “Fy Nuw, fy Nuw, pam yr wyt wedi fy ngadael?’ gan ddyfynnu Salm 22.


Mae’n ein hatgoffa o’r prawf roddwyd ar Abraham, i gymryd ei “unig fab Isaac, sy’n annwyl gennyt,” a’i offrymu ar fynydd Moreia – er nad oedd angen iddo wneud hynny yn y pendraw, wrth gwrs. Ond dyna’n union wnaeth Duw y Tad gyda Mab ei fynwes.


Rhaid i ni gofio hefyd fod y Mab yn fodlon dod o’r gogoniant nefol, yn fodlon rhoi ei einioes drosom, yn fodlon yfed cwpan dicter Duw, er mor anodd oedd hynny. Aeth fel Oen i’r lladdfa, bu’n dawel yn llaw ei wrthwynebwyr creulon, doedd dim dial na bygwth, roedd yn Waredwr ac yn Brynwr ewyllysgar.


A hyn i gyd er mwyn i ni beidio ag aros ar wahân i Dduw yn ein pechod, ond i gael ein huno am byth ag Ef trwy Iesu Grist – yr unig Gyfryngwr rhwng Duw a dynion.


Diolch am y gwahanu poenus ar Galfaria, a’r aduniad hapus â Duw trwy i ni gredu yn yr Arglwydd Iesu Grist. Boed i ni fod yn ddisgyblion ewyllysgar i’n Harglwydd bendigedig.


John Treharne, Tabernacl Llwynhendy

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram