• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 12 Mai 2020

Updated: May 20

Molwch yr Arglwydd

Salm 113

Mae popeth fel petaen nhw wedi newid. Trefn arferol ein diwrnodau wedi’i chwalu. Patrwm a rhythm bywyd yn gwbl wahanol. Ein bywyd eglwysig, yn sicr, wedi’i lwyr drawsnewid. Mae’n mynd a dod i wasanaethau’r Sul a’r cyfarfodydd wythnosol wedi’i wahardd ers wythnosau bellach. Oes ’na rywbeth sy’n aros yn ddigyfnewid? Unrhyw realiti cyson, parhaol a di-dor? Wel, mae’r salm hon yn hybu rhagorfraint moliant gwastadol, di-ball a pharhaus.


Llyfr y Salmau oedd Llawlyfr Moliant pobl Dduw – eu Llyfr Emynau. Mewn amrywiaeth eang o amgylchiadau o’r crud i’r bedd, ym mhob math o sefyllfaoedd personol a chenedlaethol, roedd y salmau’n annog canolbwyntio mawl yn gyfan gwbl ar Dduw. Ac maen nhw’n parhau i wneud hynny heddiw. Moliant yw’r olew sy’n iro peiriant bywyd. Chwe gwaith mewn dim ond naw adnod mae’r salmydd yn ein hannog i foli’r Arglwydd. Anogaeth i’w foli sy’n agor ac yn cau’r salm. Yn ôl nodiadau’r Beibl Canllaw uwchben y salm, hon yw’r gyntaf yn yr “Halel Eifftaidd” – chwe salm (Salmau 113-118) oedd yn cael eu canu adeg y Pasg i foli Duw am yr achubiaeth o’r Aifft. Mae’r cysylltiad hanesyddol yn llawer mwy amlwg yn Salm 114. Lleisio eu Haleliwia wrth gofio Duw fel Duw sy’n achub ac yn gwaredu ei bobl o sefyllfaoedd anodd y mae’r salmau hyn. Pan gofiwn eu cyd-destun, ni allwn lai na chredu mai un ohonynt oedd yr ‘emyn’ olaf i Iesu ei ganu gyda’i ddisgyblion cyn ymadael â’r oruwchystafell am ardd Gethsemane (Mathew 26:30; Marc 14:26).


Felly, gadewch i ni ofyn pam y mae moli Duw mor hanfodol i ni, yn arbennig ’nawr mewn cyfnod mor ddieithr, anarferol ac anghyffredin?


1. Mae moli’n codi’n llygaid oddi arnom ni’n hunain a’n sefyllfaoedd cyfyngedig.

Mae’n codi’n golygon at Dduw, at yr Arglwydd sy’n “uchel…goruwch yr holl genhedloedd, a’i ogoniant goruwch y nefoedd” (adnod 4). Mae’n ddyrchafedig ac wedi’i orseddu uwchlaw pawb a phopeth (adnod 5). Mae’r disgrifiadau hyn yn rhoi i ni olwg aruchel, urddasol a gogoneddus ar Dduw. Mae ei orseddiad yn ein hatgoffa o’i allu, ei awdurdod, ei urddas a’i ysblander. Mae cael gafael ar y persbectif hwn yn hanfodol i ni. Mae angen Duw MAWR arnom, Duw nad yw’n gyfyngedig i amser, amgylchiadau a digwyddiadau. Dyma’r olew sy’n iro’n moliant. Mae adnod 1 yn ein galw’n “weision yr Arglwydd” ac felly ein braint a’n cyfrifoldeb yw sicrhau bod moliant yn rhan annatod o’n gwasanaeth. Moliant “o godiad haul hyd ei fachlud”. Moliant ym mhob sefyllfa. Moliant mewn helaethrwydd ac mewn cyfyngder; moliant pan fydd pethau’n olau a phan fyddant yn dywyll. Rhaid i ni fynegi’n moliant ymhlith y cenhedloedd sy’n addoli duwiau ac eilunod nad ydynt i’w cymharu â’n Harglwydd a’n Duw digymar ni. Mae ei enw, ei gymeriad, ei fwriadau a’i addewidion Ef yn unigryw. Roedd y proffwyd Malachi, yn ei weledigaeth am y dyfodol yn hiraethu am weld gwireddu’r dyhead hwn, a hynny ar sail geiriau Duw ei hun.

“Canys o gyfodiad haul hyd ei fachludiad hefyd, mawr fydd fy enw ymysg y cenhedloedd, ac ym mhob lle arogldarth a offrymir i’m henw, ac offrwm pur, canys mawr fydd fy enw ymhlith y cenhedloedd”, medd ARGLWYDD y Lluoedd.” (Malachi 1:11)


2. Mae moliant yn ein hatgoffa o ras a thrugaredd Duw.

Edrychwch ar adnodau 6-9. Mae Duw aruchel y nefoedd yn ymostwng i ymwneud â’i fyd. Mae’r ymostyngiad digymar hwn yn rheswm ychwanegol dros ei foli. Yn adnodau 7&8 cawn ddau ddarlun o’i ras a’i drugaredd yn “codi’r gwan o’r llwch ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen, i’w gosod gyda phendefigion ei bobl”. Dyna i chi newid byd! O gofio mai ar adeg y Pasg y byddai’r salmau hyn yn cael eu canu, codi a dyrchafu’r Exodus fyddai’n dod i’r cof. Ond fe gofiwn ni am godi a dyrchafu’r Efengyl – cael ein codi o fod yn feirw mewn camweddau i fywyd newydd yng Nghrist Iesu a’n dyrchafu i eistedd gydag ef yn y nefolion leoedd (Effesiaid 2:5&6). Y cwbl o ras, cariad a thrugaredd Duw! Gadewch i ni oedi am foment i feddwl am ein siwrne o’r llwch a’r domen i fod ymhlith teulu brenhinol Crist. Oni ddylem ni foli a gogoneddu’r Arglwydd?


Mae adnod 9 yn rhoi i ni ddarlun arall o drugaredd Duw. Darlun trist o wraig amhlantadwy yn dod yn fam llawen i blant. Roedd Sara a Hanna’n ddiffrwyth ond trwy ymyriad gwyrthiol Duw ganwyd iddynt blant fyddai’n cyflawni ei fwriadau ar gyfer dyfodol Israel a’r cenhedloedd. Mae ymyriad goruwchnaturiol Duw yn niffrwythder y gwragedd hyn yn dangos ei allu grymusol i greu bywyd o ddim. Mae’n Duw hollalluog ni’n abl i wyrdroi unrhyw sefyllfa o anobaith a thrallod. Ac mae’r hyn oedd yn wir amdano yn y gorffennol yn dal yr un mor wir. Rydym ni heddiw, fel unigolion ac eglwysi, mewn sefyllfa o ddiffrwythder oherwydd i ni wrthgilio dro ar ôl tro. Rhaid i ni wrth waith grasol, tosturiol Duw i’n hadfywio a’n hadfer ni’n bersonol ac fel cynulliadau o’i bobl. Rydym yn dyheu am fod yn ffrwythlon ac yn effeithiol. Pan welwn Dduw ar waith yn geni o’r newydd blant iddo’i hun “drachefn ni a’i molwn”. Ar yr un nodyn mae’r salm yn gorffen. Rhaid i ni ganu’n hanthem o fawl yn barhaus. Ar adeg fel hon, gallwn gael ein temtio i gwyno, gofidio a phryderu, ond mae’r salmydd yn ein hannog i leisio cân o foliant.


Felly, “Cenwch yn llafar i’r Arglwydd”. Molwch yr Arglwydd.


Meirion Thomas, Malpas Road

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram