• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 12 Gorffennaf 2020

Yr wyf fi wedi dod i'r byd yn oleuni, ac felly nid yw neb sy'n credu ynof fi yn aros yn y tywyllwch.

Ioan 12:46

Niwl

Gwawriodd diwrnod arall, a hwnnw mor ddigyffro a thawel â’r rhai o’i flaen. Parhâi'r niwl yn isel a thywyll. Tybed a oedd y mynyddoedd yma mewn rhyw gyngor cyfrin â’i gilydd - о olwg rhythlyd byd - a dim mwy o awydd arnynt rannu eu cyfrinach â ni heddiw eto?


Wel o’r diwedd! A! Dyma’r haul yn ceisio ymwthio’n galed trwy’r tarth. Mae’n edrych yn swil, fel pe bai’n ceisio’n slei bach weld beth fu’n hanes ni’r dyddiau diwethaf yma. Gan nad yw haul а niwl ar delerau rhy dda â’i gilydd, ac na cheir hwy’n hir yng nghwmni ei gilydd, gwelwyd bod gobaith o’r diwedd y gellid casglu’r defaid o’r mynydd. Roedd diwrnod cneifio yn ymyl a’r defaid heb gael eu golchi hyd yn oed. Yn ffyddiog y byddai’r haul yn llwyddo i yrru’r niwl i ffwrdd, galwyd y cymdogion a arferai helpu. Cychwynnwyd yn fintai fach hwyliog tua’r mynydd. Gweai a throsai’r cŵn drwy’i gilydd fel plant yn mynd ar wibdaith. Roedd ychwanegiad cŵn diarth yn esgus i rampio a rhedeg.


Gan adael y gweddill, cyfeiriodd John a’r cŵn eu camre at ffin bela’r mynydd. Wedi cerdded gryn dipyn daeth yn amlwg nad oedd diben mynd yn eu blaen. Roedd y niwl yn tewhau. Hawdd gweld mai’r niwl am y tro a enillodd ar yr haul. Cysidrai mai cymryd y ffordd ferraf adref oedd y peth callaf iddo.


Ond yn wir, ymhen ychydig rhaid oedd iddo gyfaddef nad oedd hanner mor siŵr pa gyfeiriad yr oedd ei gartref erbyn hyn. Cuddiai niwl bob nod gweladwy y gallai gyfeirio ei gamre tuag ato. Gwenai wrth gofio am rai yn colli eu cyfeiriad mewn niwl. Byddai’n amhosibl i hynny ddigwydd iddo ef ar yr hen fynydd yma, darn o’r ddaear a adwaenai fel cefn ei law. Cychwynnodd, fe dybiodd, i’r cyfeiriad iawn, a’r cŵn yn ei ddilyn. Gwell fuasai pe dilynasai ef y cŵn. Gwyddent hwy y ffordd о reddf yn well nag ef. Ond sut y gallai roi ar ddeall i’r creaduriaid gwirion? Dilynent wrth ei sodlau, gan ymddiried fod pwrpas і bob cam a thro o’i eiddo.


Daeth yn sydyn ar draws torlan fawn, lle torrai’r cyndeidiau eu mawn. Gallasai daeru na welodd mohoni erioed o’r blaen, edrychai mor ddieithr ddu a dwfn fel y caeai’r niwl o’i chwmpas fel rhyw len wlanog. Wrth ddal i gerdded - ai ymlaen ai ynteu’n ôl ni wyddai - deuai at ambell lannerch a ddylasai ei hadnabod yn dda iawn. Ond gan y deuai ati y tro hwn о gyfeiriad gwahanol, edrychai popeth mor ddiarth. Dechreuodd amau’r cwbl. Ni allai ymddiried mewn dim a welai.


Fel y cerddai wysg ei drwyn deuai ambell garreg yn sydyn i’w gwrdd, fel petai’n cerdded allan o’r niwl. Edrychai fel telpyn o graig fawr yn erbyn ei chefndir niwlog. O rythu arni gwelai’r rhigolau a’r rhychau oedd ar ei hwyneb - pethau na chymerai fawr sylw ohonynt o’r blaen pan doddent i’w gilydd yn rhan o’r olygfa. Aethai pethau bach yn fawr rywsut. Arswydai о feddwl mai dyma ddechreuad colli cydbwysedd pethau, ie, colli synnwyr.


Ymhen tipyn, er ei syndod, fe’i cafodd ei hunan yn ôl eto wrth y geulan fawn. Wel, wel! Dyna wastraff ar amser ac egni! Cerdded о gwmpas mewn cylch dibwrpas heb fynd i unlle.


Sylweddolodd am y tro cyntaf fod dau fath о niwl i’w gael. Codi o leithder afon a chors a llyn a wna niwl y dyffryn, gyda budreddi mwg tref ambell dro yn ychwanegu ato a’i wneud yn gymaint mwy о niwl. Tebyg ydyw i’r niwl neu’r tywyllwch a ddaw arnom weithiau pan dorrwn ddeddfau natur neu iechyd, neu yn wir unrhyw un o ddeddfau Duw. Dyma rywbeth y gallwn ddisgwyl iddo ddod arnom o reidrwydd yn nhrefn pethau.


Niwl mynydd yw’r math arall. Daw hwn i lawr oddi uchod megis. Dyma’r math ar niwl a ddaw  arnom mewn bywyd pan fydd ei brofedigaethau a’i anawsterau yn peri inni ofyn, ‘Pam y daeth hwn i’m rhan i?’ Gall guddio wyneb ein Tad Nefol a chuddio’r nefoedd rhagom. Gall guddio hefyd bob nod a diben i fywyd a’n gadael heb ddim i ymgyrraedd ato a byw er ei fwyn.


Dal i gerdded a wnâi John fel dyn dall, gan obeithio’n bennaf ddod о hyd i rywbeth a roddai sicrwydd iddo ei fod ar y ffordd iawn. Edrychai’r defaid y deuai ar eu traws mor fawr â lamas yn y niwl. Dyma’r adeg i werthu defaid! Rhoddai’r nod gwlân a welai arnynt sicrwydd ei fod о fewn ei dir ei hun beth bynnag. Ie, ond ar goll! Porai’r defaid yn hapus braf fel pe na bai dim o’i le. Y tawelwch hwnnw a’i hatgoffai am ambell un mewn bywyd â nod Bugail Mawr y praidd yn amlwg arnynt, yn yr heddwch a’r tangnefedd a’u meddiannai yn y niwl tewaf.


Arswydai wrth feddwl, beth pe deuai yn sydyn at fin Craig Lledron neu Graig y Pistyll Gwyn? Troediai’n fwy gofalus yn awr, gan synhwyro ei gerddediad wrth fynd ymlaen. Dod ar draws Nant Bumrhyd oedd ei obaith. Pe deuai at glawdd y mynydd, ni fuasai ddim botwm yn nes at wybod pa gyfeiriad i’w gymryd; rhyw fynegbost mud yn dweud dim yw hwnnw. Ond y mae i ddŵr gymeriad a hwnnw’n un cyson, un y gellir dibynnu arno: y dyffryn yw ei gyfeiriad bob amser. Teimlai fel pe bai yng ngwlad hud a lledrith - tybed a symudodd y tylwyth teg y nant i rywle? Yn ei ddryswch ’doedd ganddo ddim i’w wneud ond cyfaddef fod pob ymdrech o’i eiddo wedi mynd yn ffliwt. Arhosodd i wrando, ie gwrando, yn y distawrwydd... A! Clywai sŵn dŵr yn rhywle. Wel, o’r diwedd! Gwrando eto, a mynd yn araf i’w gyfeiriad. Gorfu iddo blygu’n ofalus at fin y dŵr i wybod pa ffordd y rhedai, gan drwched y niwl. Dilynai’r nant yn awr gyda sioncrwydd newydd yn ei gamau a theimlad o hyder pendant, fel dyn wedi dechrau cael pen y ffordd mewn bywyd a dod o hyd i’r gwirionedd y bu’n chwilio amdano gyhyd.


O ddilyn y nant fach a ddawnsiai dros y cerrig, yn sydyn a dirybudd daeth allan o’r niwl. Safodd eto, ond i syllu y tro hwn - syllu fel pe bai mewn breuddwyd ar wyrddlesni’r dyffryn islaw. Roedd fel dyn a gafodd ei olwg, neu enaid a ddaeth o dywyllwch i oleuni.


Dychwelodd heb y defaid, ond gwyddai iddo weld llawer yn y niwl sy’n wir iawn am fywyd. Rhaid i’r colledig, fel yr un а gollodd olwg ar ei Waredwr, chwilio’n ddyfal am fywyd ac aros yn aml i wrando, nes y daw о hyd i’r dŵr bywiol sy’n tarddu i fywyd tragwyddol ac a ddaw â ni o’r niwl i’r goleuni.

Yn y dydd hwnnw bydd y rhai byddar yn clywed geiriau o lyfr, a llygaid y deillion yn gweld allan o'r tywyllwch dudew. Eseia 29:18

​Mari Jones, Trwy Lygad y Bugail

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram