• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 11 Awst 2020

Ar y mynydd hwn bydd ARGLWYDD y Lluoedd yn paratoi gwledd o basgedigion i’r bobl i gyd, gwledd o win wedi aeddfedu, o basgedigion breision a hen win wedi’i hidlo’n lân.

Eseia 25:6 

Ddoe, fe welsom y ffordd rhyfeddol y mae Duw yn darparu ar ein cyfer ac yn ei gwahodd i wleddau gyda Fe. Heddiw rydym yn parhau i ddysgu o’r adnod hyfryd hon.


Yn y Testament Newydd mae Iesu yn datgan mai ef yw “bara’r bywyd” a’r “dŵr bywiol”. Mae hefyd yn sefydlu swper lle mae’r bara a’r gwin yn arwyddion o’i farw aberthol a thrwy ffydd rydyn ni, wrth fwyta ac yfed, yn bwydo’n symbolaidd arno ef. “Y mae gan yr hwn sy’n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i fywyd tragwyddol, a byddaf i’n ei atgyfodi yn y dydd olaf. Oherwydd fy nghnawd i yw’r gwir fwyd, a’m gwaed i yw’r wir ddiod. Y mae’r sawl sy’n bwyta fy nghnawd i ac yn yfed fy ngwaed i yn aros ynof i, a minnau ynddo yntau” (Ioan 6:54-56). Mae Iesu’n aml yn bwyta pryd ac mae’r rhai sydd wedi’u gwahodd yn elwa o’i gymdeithas. I ddisgrifio Teyrnas Dduw mae’n defnyddio dameg gwledd briodas - mae’r croeso i bawb gyfranogi ohoni yn ddarlun o efengyl odidog rhad ras. Dameg arall yw honno sy’n sôn am fab afradlon yn dychwelyd adref a’r tad yn annog pawb i ddathlu ac i wledda.


Yn un o’i ymddangosiadau wedi iddo atgyfodi, mae Iesu wrth fôr Galilea yn cymell ei ddisgyblion, “Dewch, cymerwch frecwast” (Ioan 21:12). Yn ei sylwadau ar yr adnod hon, mae Edith Schaeffer yn dweud y dylai’r ffaith i'r Arglwydd atgyfodedig ymostwng i ffrio pysgod i'w gyfeillion, ac yntau ar gael ei ddyrchafu’n Frenin, ein hargyhoeddi na ddylem deimlo unrhyw achlysur i baratoi bwyd i eraill yn feichus neu’n ddiraddiol. Wrth i Iesu geryddu eglwys Laodicea mae’n eu cymell i’w dderbyn yn ôl i’w plith. “Wele, yr wyf yn sefyll wrth y drws ac yn curo; os clyw neb fy llais ac agor y drws, dof i mewn ato, a bydd y ddau ohonom yn cyd-fwyta gyda’n gilydd” (Datguddiad 3:20). Mae cymdeithas Crist yn wledd o’i bresenoldeb yng nghyflawnder gras a chariad; rhagflas o’r wledd o ogoniant tragwyddol sydd i ddod, gwledd a fydd yn bodloni’n harchwaeth am byth. Ni fydd arnom mwyach na newyn na syched.


Ar Ragfyr 20, 1868 pregethodd C. H. Spurgeon ar yr adnod uchod o Eseia 25. Dyma’i eiriau “We have nearly arrived at the great merry-making season of the year. On Christmas-day we shall find ourselves enjoying with all the good cheer which we can afford. Servants of God, you who have the largest share in the person of him who was born at Bethlehem, I invite you to the best of all Christmas fare—to nobler food than makes the table groan—bread from heaven, food for your spirit. Behold, how rich and how abundant are the provisions which God has made for the high festival which he would have his servants keep, not now and then, but all the days of their lives! God, in the verse before us, has been pleased to describe the provisions of the gospel of Jesus Christ. Although many other interpretations have been suggested for this verse, they are all flat and stale, and utterly unworthy of such expressions as those before us. When we behold the person of our Lord Jesus Christ, whose flesh is meat indeed, and whose blood is drink indeed — when we see him offered up upon the chosen mountain, we then discover a fulness of meaning in these gracious words of sacred hospitality.


Felly, unwaith eto heddiw “Profwch a gwelwch mor dda yw yr Arglwydd”. Mwynhewch wledd yr efengyl. Trwy ffydd porthwch eich meddwl a’ch calon ar ddeiet iachusol gwirionedd y Beibl. Bodlonwch eich archwaeth, eich newyn a’ch syched wrth i chi gymdeithasu â’n Gwaredwr Iesu.


Meirion Thomas, Malpas Road ​

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram