• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 1 Mai 2020

O Benllywydd, tydi a wnaeth y nef a'r ddaear a'r môr a phob peth sydd ynddynt

Actau 4:24

Bore ma, hoffwn i ddweud rhywbeth am y pwnc gweddi.


Yn Mhennod 4 o Lyfr yr Actau, wedi i Pedr a Ioan gael eu harestio ac yna’u rhyddhau, fe ddaethon nhw at y credinwyr eraill a dechrau gweddïo. Drwy ragluniaeth garedig Duw mae cofnod o’r weddi honno ac mae’n gyfoethog o addysg ysbrydol. Gadewch i mi grybwyll dau beth i ni feddwl amdanyn nhw. Yn gyntaf oll, fe wnaethon nhw fynegi eu ffydd yn sofraniaeth Duw. ‘Arglwydd, Ti sydd Dduw’.  Ni allai unrhyw beth arall fod yn fwy pwysig. Mae’n hanfodol ym mhob gweddi i ddechrau yma, gan ein hatgoffa’n hunain ym mhob un sefyllfa fod Duw ar yr orsedd.


Roedd y broblem a wynebwyd gan yr Eglwys Fore yn un ddwys; ond roedd eu llygaid ar yr Arglwydd, nid ar yr argyfwng. Hoffwn bwysleisio’r ffaith fod hon yn wers hanfodol i ni gyd ei dysgu. Yn aml dywedwn: ‘Ewch â hyn at yr Arglwydd mewn gweddi’ ond gwaetha’r modd, yn rhy aml yn ein profiad ni, mae’r ‘hyn’ yn dod yn fwy pwysig na’r ‘Arglwydd’, a gallwn bendroni am yr ‘hyn’ mor aml ac mewn rhyw ffordd arbennig fel bod y broblem, yr anhawster neu’r argyfwng yn llenwi’n gorwelion i gyd ac mae’n calonnau bron wedi’u parlysu mewn ofn ac arswyd.


Ceir rhai mathau o weddi nad ydyn nhw’n llawer o help i’r enaid am eu bod ond yn canolbwyntio’n meddyliau fwy ar y broblem ac nid yw hyn yn beth da nac o help. Yn aml iawn, fel pethau eraill mewn bywyd, gallwn greu problem o broblem, yn unig drwy roi gormod o sylw iddi ac felly, nid ydym bellach yn ei gweld yn ei gwir oleuni. Fel cysgodion ar y wal yng ngolau’r tân, maent wedi’u hystumio ac yn afreal. Ond wrth i’r ystafell gael golau clir y mae’r afluniadau hyn yn diflannu, ac ond wrth i oleuni gwyn sofraniaeth Duw ddisgleirio mewn sefyllfa y bydd ein hofnau’n tawelu. Dyma a welodd yr apostolion wrth iddyn nhw ddod ynghyd i weddïo ac mae angen i ni wneud yr un peth neu mi fyddwn ar ein colled o’r dechrau.


Dyna’r wers gyntaf a dyma’r ail: aeth yr apostolion hefyd at yr Ysgrythurau gyda’u problem. Roedden nhw’n credu bod gan Dduw air ar eu cyfer. Dyma lle mae gwir wybodaeth o’r Ysgrythurau’n bwysig. Maent yn ffynhonnell nerth ac anogaeth ac maent hefyd yn rhoi golwg i ni ar sefyllfa arbennig ynghyd â dealltwriaeth ohoni.


Yn Actau 4 arweiniodd yr Ysbryd Glân y disgyblion at yr ail Salm, lle gwnaethon nhw weld yn syth fod materion ysbrydol, byw ym mywyd y Salmydd hefyd yn faterion iddyn nhw: rhai sydd mor aml yn faterion i ninnau hefyd. Mae pobl yr Arglwydd ym mhob cenhedlaeth mewn gwrthdaro ysbrydol.


Gwelodd yr Apostolion, drwy’r Ysgrythurau, fod y gwrthwynebiad a gawsant yn rhan o’r frwydr ysbrydol sylfaenol rhwng goleuni a thywyllwch ac fe wnaeth yr ail Salm adnewyddu ac ailgadarnhau eu argyhoeddiad fod Duw ar yr orsedd. Onid dyma’r hyn  yr ydym wedi bod yn ei glywed bob bore wrth i’n gweinidogion ddehongli Llyfr y Salmau i ni? Rydym ni i gyd yn pryderu am ymdopi â’r materion sydd wedi’u creu gan y pandemig, y ffordd o fynd i’r afael â hwy a’r cwbl y maent yn ei wneud i’n bywydau. Ddylem ni ddim colli’r ffaith fod yr Apostolion heb ofyn i Dduw eu gwared rhag y pwysau oedd arnynt nac i symud y bygythiadau. Nad oedden nhw’n teimlo’n rhydd i wneud hynny. Doedd ganddyn nhw ddim sicrwydd mai dyma a ddylent ofyn amdano a dyma rywbeth pwysig y mae angen i ni ei ystyried. Mae yma ddoethineb a realaeth ysbrydol nad ydym bob amser yn eu gweld, yn arbennig felly’r dyddiau anodd hyn. Mae’n bosibl gwastraffu gymaint o amser mewn gweddi drwy ofyn am y pethau anghywir, pethau sydd y tu allan i’r ewyllys dwyfol a’r pwrpas ar ein cyfer.


Dylem wneud yn siŵr y cawn ofyn cyn i ni ofyn. Petaem ni’n gweddïo mwy am ddealltwriaeth a dirnadaeth o ewyllys Duw, efallai y byddem yn gweld ein problemau a’n treialon mewn golau gwahanol. Mae rhai ohonynt er ein lles a’n haddysg, a phob amser ar gyfer ein datblygiad ysbrydol. Yn aml, fe’u lluniwyd i’n nerthu yn ein penderfyniad i ddal ati yn y bywyd Cristnogol ac yn y rhyfel ysbrydol.


Gellir anfon sefyllfaoedd eraill i’n bywydau er mwyn i ni sylweddoli bod yr Arglwydd yn rhoi i ni gyfle i ogoneddu Ei Enw. Nid rhyddid rhag adfyd, ond hyfdra mewn adfyd oedd gweddi’r Cristnogion cynnar hynny, ac fe gafodd eu cri ei hateb yn rhyfeddol. Defnyddiwyd cyfleoedd ac ymledodd yr efengyl yn gyflym iawn.


Boed i’r Arglwydd ein dysgu ni i weddïo fel hyn.


Bill Hughes

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram