• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 1 Gorffennaf 2020

 “Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd, oherwydd o Dduw y mae cariad, ac y mae pob un sy’n caru wedi ei eni o Dduw ac yn adnabod Duw. Y sawl nad yw’n caru, nid yw’n adnabod Duw, oherwydd cariad yw Duw. Yn hyn y dangoswyd cariad Duw tuag atom, bod Duw wedi anfon ei unig Fab i’r byd er mwyn i ni gael byw drwyddo ef. Yn hyn y mae cariad: nid ein bod ni’n caru  Duw, ond ei fod ef wedi ein caru ni, ac wedi anfon ei Fab i fod yn Iawn dros ein pechodau. Gyfeillion annwyl, os yw Duw wedi ein caru ni fel hyn, fe ddylem ninnau hefyd garu ein gilydd. Nid oes neb wedi gweld Duw erioed; os ydym yn caru ein gilydd, y mae Duw yn aros ynom, ac y mae ei gariad ef wedi ei berffeithio ynom ni.”

1 Ioan 4:7-12

Mae sawl math gwahanol o gariad, ac mae’r gair ‘cariad’ yn aml yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd ysgafn a ffwrdd â hi. Mae Ioan yn agor y paragraff yma gydag anogaeth: “Gadewch i ni garu ein gilydd”. Ond mae Ioan yn gwybod ein bod ni’n aml yn syrthio’n fyr o hyn, ac nad yw caru ein gilydd bob amser yn beth hawdd i ni. Mae’n manylu ar y datganiad, felly, gan roi resymau pam y dylem ni garu ein gilydd.  Mae’n nodi pedwar rheswm.


1. Cariad yw Duw. Ffynhonnell cariad yw Duw. Nid arddangos cariad yn unig mae Duw. Mae’n fwy na pherson cariadus. Cariad yw Duw. Felly mae popeth y mae Duw yn ei wneud yn ganlyniad i’r cariad hwnnw. Sut ydyn ni’n gwybod hyn? Mae wedi arddangos y cariad hwn yn y weithred o anfon ei fab i’r byd. Mae adnod 10 yn ein hatgoffa ni bod cariad Duw tuag atom yn llifo ohono Ef ei hun. Fe sy’n cymryd y cam cyntaf, nid ni.


2. Mae cariad yn dangos ein perthynas ni â Duw. Mae’r math hwn o gariad Beiblaidd yn dod oddi wrth Dduw ei hun, ac yn cael ei roi i ni pan gawn ni ein hail-eni. Mae’r cariad hwn yn brawf bod newid wedi digwydd yn ein bywyd. Mae camau rhesymegol i’w gweld yma:


1) Cariad yw Duw

2) Mae’r rhai sydd wedi eu geni o Dduw yn blant iddo

3) Dylai plant Duw fod yn debyg i’w Tad Nefol

4) Un o brif nodweddion Duw yw ei gariad

5) Felly bydd plant Duw yn gweithredu cariad.


3. Wrth garu ein gilydd rydyn ni’n dilyn esiampl Duw. Fe sylwon ni ar y cychwyn bod Duw wedi dangos Ei gariad mewn ffordd hunan-aberthol. “Do, carodd Duw y byd gymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bob un sy’n credu ynddo ef beidio â mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol. Oherwydd nid i gondemnio’r byd yr anfonodd Duw ei Fab i’r byd, ond er mwyn i‘r byd gael ei achub trwyddo ef” (Ioan 3:16-17). Felly, fe ddylen ni, fel credinwyr, ddilyn ei esiampl. Rydyn ni mor aml yn methu caru fel ag y dylem ni, oherwydd nad ydyn ni wedi dirnad yn llawn beth mae Duw wedi ei wneud trosom, nac wedi gwerthfawrogi’n iawn yr esiampl perffaith osododd e i ni. Rydyn ni fod i garu ein gilydd mewn ffordd hunan-aberthol.


4. Mae caru yn rhan o’n tystiolaeth Gristnogol. Fel Cristnogion, rwy’n siwr ein bod ni’n ymwybodol bod y byd yn ein gwylio ni’n agos iawn, ac yn aros i’n gweld ni’n syrthio ac yn methu. Ond, wrth ein gwylio ni, fe ddylen nhw hefyd weld ein bod ni’n arddangos cariad Cristnogol. Bydd hyn yn achosi cryn ddryswch iddyn nhw, yn enwedig pan fyddwn yn dangos cariad hunan-aberthol, ac wrth bobl nad ydyn ni’n eu hadnabod hyd yn oed. Fe ddylai hyn eu pwyntio nhw at Grist.

Gyfeillion annwyl, gadewch i ni garu ein gilydd.

Tirzah Jones, Malpas Road

0 views

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram