• MEC/EMW

Defosiwn Dyddiol MEC - 1 Awst 2020

...am fod pawb sydd wedi eu geni o Dduw yn gorchfygu'r byd. Hon yw'r oruchafiaeth a orchfygodd y byd: ein ffydd ni.

1 Ioan 5:4

Annwyl Ffrindiau,


Tybed pa mor aml y teimlwch y boen a all ddod o ganlyniad i fod yn Gristion, a hithau’n ymddangos fel petaech yn estron yn byw mewn byd dieithr?


Mae’n gweinidogion yn aml yn ein hatgoffa yn eu pregethu ein bod mewn brwydr a rhyfel ysbrydol ac nad y byd hwn yw ein cartref. O ganlyniad mae yna adegau pan deimlwn yn wir ryw synnwyr o ddieithrwch a hiraeth am y nefoedd.


Y pwrpas dwyfol ar gyfer pobl Dduw yn yr Hen Destament oedd y byddent yn oleuni ac yn ddylanwad dros Dduw a thros wirionedd ymhlith y cenhedloedd. Er hynny fe fethon nhw â gweld hyn, a golygai eu cludo i Fabilon fod y golau hwnnw nid yn unig wedi’i ddiffodd ond ymddangosai fod stondin y lamp hefyd wedi’i symud ymaith. Dioddefodd Israel gywilydd mawr ac roedd y cenhedloedd o’i chwmpas yn amddifad o oleuni’r gwirionedd am genedlaethau. Mae Salm 137 yn cyfleu eu teimladau’n eglur: “Ger afonydd Babilon yr oeddem yn eistedd ac yn wylo wrth inni gofio am Seion.


Roedd y gaethglud i Fabilon yn gyfnod o farn a anfonwyd gan Dduw ar Ei bobl ac yn rhywbeth y mae Ef yn anfon i’w Eglwys o bryd i’w gilydd yn ei hanes. Digwydda’n aml yn y cyfnodau hynny pan fo’r eglwys yn symud oddi wrth ganolrwydd a blaenoriaeth cyhoeddi Gair Duw yn ei haddoliad ac yn ei gweithgareddau, gan droi’n ddiofal yn ei hymestyn allan. Bryd hynny mae angen i ni gofio’r hyn ddywedodd yr Arglwydd yn nyddiau Amos: “‘Wele’r dyddiau yn dod,” medd yr Arglwydd DDUW, “pan anfonaf newyn i’r wlad; nid newyn am fara, na syched am ddŵr, ond am glywed geiriau’r Arglwydd” (Amos 8:11)


Mae unrhyw Gristnogion sydd wedi byw yn ystod amseroedd o newyn ysbrydol yn gwybod yn dda iawn sut brofiad oedd, ac weithiau maent wedi ei ddisgrifio fel bod o dan farn Duw. Rydym yn byw mewn gwlad sydd dros flynyddoedd lawer wedi bod yn chwilio am y bwyd sy’n darfod, sy’n ymhyfrydu mewn anffyddiaeth, dyneiddiaeth ac anfoesoldeb, sy’n gwrthod Duw a Gair Duw ac sy’n llawn gwawd at eglwys ein Duw. O ganlyniad, gall Cristnogion deimlo bron fel yr Israeliaid yn byw ym Mabilon. Mae’n hysbryd yn ochneidio ac rydym yn ymwybodol o ba mor ddiymadferth yr ydym yn wyneb y cwbl sy’n digwydd o’n cwmpas. Mae Ysbryd Duw fel petai wedi’i rwymo ac ymddengys Gair Duw yn aneffeithiol. Mae teimlad bod yr eglwys yn amherthnasol ym meddwl mwyafrif y bobl. Rydym yn byw mewn cenhedlaeth lle mae gwleidyddion a’r cyfryngau wedi annog anffyddwyr radical, ac wedi ysbrydoli miliynau i droi cefn ar yr Arglwydd.


Felly dyma’r cwestiwn: Pwy sy’n ysbrydoli pobl fel hyn i fod mor ddrwg, mor hunan-hyderus, balch a thrahaus? Un ateb yn unig sydd, sef y Diafol a’i gythreuliaid.


Pryd bynnag y mae’r eglwys yn wan a phryd bynnag y mae newyn o ran Gair Duw, yna mae “Babilon” a’i holl ddylanwadau drwg yn ymestyn yn y byd. Fel Cristnogion sydd wedi’n hamgylchynu gan hyn i gyd, mae angen i ni ddal gafael o’r newydd yn y gwirionedd hanfodol fod Crist wedi trechu Satan a’i holl angylion syrthiedig. Mae wedi difetha’r tywysogaethau a’r grymoedd, a rhaid i ni gredu hynny. Mae angen i ni weithredu hyn drwy ffydd. “Hon yw'r oruchafiaeth a orchfygodd y byd: ein ffydd ni” (1 Ioan 5:4).  Dyma’r weddi o ffydd a fydd unwaith eto’n gwrthdroi’n caethiwed, a gair Duw yw’r arf y defnyddia Duw i gyflawni hyn.


Rhaid i ni hefyd gofio mai gweddi ffydd a fydd yn lleihau dylanwadau’r drygioni yn y cyfryngau, gwleidyddiaeth yn ogystal â materion cenedlaethol a rhyngwladol. Mae gweddi ffydd yn gwrthsefyll pwerau’r tywyllwch gan eu hatgoffa fod Crist wedi’u gorchfygu.


Felly mae angen i bob Babilon yn y byd hwn ochel rhag gwir eglwys Crist - am fod gennym yr arfau i ddinistrio’u cadarnleoedd. Mae wedi digwydd yn ystod diwygiadau mawr yn y gorffennol ac mae arwyddion calonogol ei fod yn digwydd eto’r dyddiau hyn. Mae llawer o bobl yn gwrando ar Air Duw, rhai sydd heb wneud hynny o gwbl o’r blaen, ac mae gan Gristnogion gyfleoedd i dystiolaethu dros Grist, cyfleoedd newydd iawn iddyn nhw.


O na fyddai’r Arglwydd yn: “adfer ein llwyddiant fel ffrydiau yn y Negef; bydded i’r rhai sy’n hau mewn dagrau fedi mewn gorfoledd” a “bydd yr un sy’n mynd allan dan wylo, ac yn cario ei sach o hadyd, yn dychwelyd drachefn mewn gorfoledd, ac yn cario ei ysgubau” (Salm 126:4-6).


Boed i ni edrych fwy a mwy at Grist a cheisio’i wyneb ynghanol anawsterau’n dyddiau.


Yr eiddoch yn gywir ac yn ddisgwylgar,

Bill Hughes

© 2020

Mudiad Efengylaidd Cymru - The Evangelical Movement of Wales

Elusen Gofrestredig  222407 Registered Charity

swyddfa@mudiad-efengylaidd.org office@emw.org.uk

  • Vimeo
  • Facebook
  • Twitter
  • Instagram