
MEC/EMW
Brawd

Os bydd gennych gariad tuag at eich gilydd, wrth hynny bydd pawb yn gwybod mai disgyblion i mi ydych. Ioan 13:35
Pwrpas brawd yw uno gweinidogion yr efengyl fel eu bod yn gallu annog a helpu eu gilydd.
Cychwynodd y cyfarfod yn ystod cyfnod cloi covid-19, lle cafodd gwahoddiad agored ei roi i fois sy'n gweinidogaethu i ddod at eu gilydd yn wythnosol i rannu a gweddio. Profodd hyn yn gymorth i nifer wrth iddynt fedru rhannu beichiau, trafod syniadau a gweddio gyda'i gilydd.
Gan edrych i'r dyfodol rydym am barhau gyda'r cyfarfodydd ddwy waith y mis:
Dydd Mercher cyntaf y mis (10.30 y bore) - cyfle i edrych ar thema arbennig a gweddio gyda'n gilydd
Trydydd nos Lun y mis (8.00 yr hwyr) - cyfle i rannu a gweddio
Cyfarfodydd Mehefin
Dydd Mercher (3ydd) - 10.30 y bore. Siaradwr - Meirion Morris
Nos Lun (15fed) - 8.00
Er mwyn cofrestru cysylltwch gyda Steffan Job (steffanjob@mudiad-efengylaidd.org) i dderbyn y manylion Zoom.